















| Arolwg o Glychau'r Gog gan y Natural History Museum |
|
|
|
|
Bydd canlyniadau'r arolwg yn helpu gwyddonwyr i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i glychau'r gog ym Mhrydain ac i hinsawdd Prydain. Bydd hyn yn fodd i gael darlun ledled Prydain o'r dyddiadau blodeuo bob blwyddyn, gan weld yn sgil hynny a yw'r gwanwyn yn cyrraedd yn gynharach yn y flwyddyn. Mae'r gaeaf hwn wedi bod yn oer iawn ac nid yw clychau'r gog wedi dechrau ymddangos hyd yn hyn. Fodd bynnag, y dybiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw eu bod yn blodeuo'n gynharach, ond mae'n rhaid cofio hefyd fod y mathau estron o glychau'r gog sy'n bygwth ein rhywogaeth frodorol ni, yn blodeuo'n gynharach yn y flwyddyn. Ym Mhrydain y mae tri math o glychau’r gog, sef y math brodorol, math Sbaen a math croesryw. Mae’r math brodorol cyfarwydd, sef Hyacinthoides non-scripta, yn nodweddiadol o goedlannau, perthi a mannau cysgodol eraill. Mae bron hanner poblogaeth y byd yn tyfu ym Mhrydain. Planhigyn gardd yw math Sbaen, Hyacinthoides hispanica, ond mae’n tyfu yng nghefn gwlad lle mae garddwyr wedi ei daflu o’u gerddi. Bellach mae’r math croesryw, Hyacinthoides x massartiana, yn fwy cyffredin na’i riant o Sbaen. Y tu hwnt i Brydain, mae clychau’r gog yn tyfu’n bennaf yn y parthau sydd o amgylch gorllewin Môr y Canoldir, gan gynnwys Gogledd Affrica (o Foroco i Dunisia), penrhyn Iberia, ac Alpau Arforol Ffrainc a’r Eidal. Edrychwch ar www.nhm.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth. |