















| Buddsoddi £1.8 miliwn mewn Astudiaeth o Sewiniaid |
|
|
|
|
Mae astudiaeth wyddonol, a fydd yn costio £1.8 miliwn i'w chynnal, yn cael ei lansio i grynhoi rhagor o wybodaeth am gylch bywyd y sewin, ac am y gwasgfeydd sydd ar y rhywogaeth yng Nghymru ac Iwerddon. Bydd y wybodaeth a grynhoir trwy'r Prosiect Sewiniaid Celtaidd yn cael ei defnyddio i roi arweiniad ynghylch polisïau rheoli ac i gyflwyno camau er mwyn cynyddu'r niferoedd yn afonydd Cymru. Hefyd bydd y wybodaeth o gymorth o ran amlygu'r cysylltiadau posibl rhwng yr amgylchedd, cynhesu byd-eang, a'r pysgod hyn. Mae'r sewin yn rhywogaeth sy'n destun Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu dirywiad o ran niferoedd sewiniaid, ac mae camau wedi eu rhoi ar waith gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynyddu eu niferoedd a hynny drwy wella eu cynefinoedd, drwy ei gwneud hi'n fwy hwylus i'r sewiniaid gyrraedd y nentydd lle maent yn claddu eu grawn, a thrwy gyfyngu ar bysgota. Bydd y prosiect yn ffurfio cronfa ddata enynnol gynhwysfawr o'r sewiniaid ifainc a gaiff eu dal yn yr afonydd, ac yn monitro diet a symudiadau sewiniaid yn y môr mawr. Gofynnir i bysgotwyr gwialen a physgotwyr rhwyd estyn cymorth drwy anfon samplau DNA o bysgod (ar ffurf cennau, gan ddefnyddio'r amlenni arbennig sydd wedi eu llunio ar gyfer y prosiect). Mae pysgota am frithyllod yn denu pysgotwyr o bant gan fod gennym ni yng Nghymru rai o'r afonydd gorau am sewiniaid yn Ewrop, gan gynnwys afon Tywi ac afon Teifi, sy'n tanlinellu pa mor bwysig yw bioamrywiaeth ac ecosystemau iach i'r economi. Yn ogystal mae'r pysgod hyn yn allweddol i nifer o bysgotwyr rhwyd traddodiadol, megis cyryglwyr, gan roi incwm i'r pysgotwyr a bod yn atyniad i dwristiaid. Dylai'r gwaith ymchwil hwn roi inni wybodaeth fanwl am ddosbarthiad y pysgod hyn a'u harferion mudo, ynghyd â data am niferoedd a bioamrywiaeth sewiniaid ym Môr Iwerddon, fel y gellir cyflwyno gwelliannau o ran rheolaeth er mwyn diogelu'r pysgodyn pwysig hwn ac er mwyn cael pysgodfeydd cynaliadwy sydd o fudd cymdeithasol ac economaidd. |