|
Llinosod Gwyrdd yn colli tir |
|
|
|
|
I filiynau o adar oer a newynog mae’r bwydwyr a’r bordydd bwydo yn ein gerddi yn fodd i fyw yn ystod y gaeaf. Ond mae rhai arbenigwyr yn rhybuddio eu bod hefyd yn gallu bod yn berygl bywyd i adar. Mae bwydwyr a baddonau adar brwnt yn lledaenu afiechyd o’r enw Trichomoniasis sydd wedi lladd un o bob pump o linosod gwyrdd Prydain ers 2005. Yn ôl Ymddiriedolaeth Adareg Prydain lladdwyd 500,000 o linosod gwyrdd gan yr afiechyd hwn yn ystod 2007. Mae hefyd yn effeithio ar fathau eraill o linosod, colomennod, ac adar y to.
Dywed y Gymdeithas Genedlaethol Er Gwarchod Adar fod rhoi bwyd ar fordydd bwydo yn ein gerddi yn achubiaeth i lawer iawn o adar ond bod angen clirio’r hen fwyd oddi arnynt a’u sgwrio â channydd (bleach) gwan a dwr bob pythefnos ynghyd â golchi’r cynwysyddion dwr a’r bwydwyr yn lân.
|