Loading translations… loading
Home Newsletters April 2010 Pathewod Sir Gaerfyrddin - Ebrill 2010

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Pathewod Sir Gaerfyrddin - Ebrill 2010 PDF Print E-mail

Dormouse NestboxDydd Sul 21ain Mawrth bu gwirfoddolwyr yn helpu i lanhau blychau'r pathewod yng Ngwarchodfa'r Ymddiriedolaeth Natur yn Rhos Cefn Bryn, Llannon, ac i osod 36 o flychau newydd. Blychau pren traddodiadol oedd chwech ohonynt, ac roedd cynllun y 30 arall yn fwy blaengar gan eu bod wedi eu gwneud o bibell blastig 110mm. Cyngor Cefn Gwlad Cymru oedd wedi talu am y blychau hyn drwy Bartneriaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Gaerfyrddin. Cynllun prawf yw hwn er mwyn gweld a fydd pathewod yn eu defnyddio. Roedd rhai o'r hen flychau'n llaith, ac yn fwyfwy anaddas o’r herwydd. Mae Jacqueline Hartley yn monitro'r blychau hyn yn rheolaidd, ac mae croeso i bobl fynd gyda hi a'r gwirfoddolwyr eraill ar y diwrnodau monitro.  Cynhelir y diwrnodau monitro hyn ar y Sadyrnau canlynol: 17 Ebrill, 22 Mai, 19 Mehefin, 24 Gorffennaf, 21 Awst, 25 Medi, 16 Hydref. Hefyd mae'r safle hwn yn rhan o'r Rhaglen Genedlaethol er Monitro Pathewod.

Cyfarfod am 8.30am ar y safle – cysylltwch â Jacqueline i gael rhagor o fanylion/cyfarwyddiadau: This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it .