Loading translations… loading
Home Newsletters April 2010 Planhigion yn blodeuo’n gynharach

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Planhigion yn blodeuo’n gynharach PDF Print E-mail

© Isabel MachoMae planhigion Prydain yn blodeuo’n gynharach yn y flwyddyn wrth i’r tymheredd godi, yn ôl astudiaeth sy’n seiliedig ar gofnodion natur sy’n ymestyn yn ôl am 250 o flynyddoedd.

Dengys y gwaith ymchwil, sydd hefyd yn seiliedig ar wybodaeth gan y cyhoedd, fod planhigion yn blodeuo bum niwrnod yn gynharach am bob 1°C y mae’r tymheredd yn codi.

Mae’r newid hwn wedi bod ar ei fwyaf yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, wrth i blanhigion flodeuo rhwng 2 a 12 diwrnod yn gynharach nag yn ystod unrhyw chwarter canrif o’r blaen.

Hefyd mae’r canlyniadau diweddaraf hyn yn adleisio astudiaeth arall a ddangosodd fod anifeiliaid yn epilio 11 diwrnod yn gynharach yn 2005 nag yn 1976.