















| Pwysigrwydd gwlyptiroedd Sir Gaerfyrddin o ran goroesiad adar mudol |
|
|
|
|
Nod Arolwg Adar y Gwlyptiroedd yw monitro'r holl adar nad ydynt yn magu ym Mhrydain er mwyn cael data i fod yn sail ar gyfer gwarchod y rhywogaethau hyn a'u cynefinoedd i'r dyfodol. Rhoddir sylw i faint y poblogaethau ac i'r tueddiadau o ran eu niferoedd a'u dosbarthiad, gan asesu pwysigrwydd safleoedd unigol i'r adar hyn. Mae Bae Caerfyrddin, lle mae mwy na 48,000 o adar yn gaeafu, a Moryd Byrri, lle mae mwy na 47,000 o adar yn gaeafu, ymysg y prif safleoedd yng Nghymru i rai rhywogaethau sydd o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae'n hollbwysig fod y safleoedd hyn yn dal i gael eu gwarchod er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gynnal y poblogaethau mawr o'r rhywogaethau hyn wrth i effeithiau cynhesu byd-eang ddod yn fwyfwy amlwg. Yn wir mae Bae Caerfyrddin yn cynnal poblogaethau pwysig o fôr-hwyaid duon a phibyddion y tywod, wrth iddynt symud trwy'r ardal ar eu taith fudo. Yn yr Arctig y mae'r adar hyn yn nythu , ac maent yn galw heibio i Gymru ar eu taith o Siberia a'r Ynys Las i'w cynefinoedd bwydo dros y gaeaf yn ne Ewrop. Mae Moryd Byrri yn cynnal poblogaethau o bibyddion yr aber, piod y môr, hwyaid llostfain, a rhostogion cynffonddu. Yn wir y rheswm rhannol pam y dynodwyd y ddau safle hyn yw eu bod yn cynnal niferoedd pwysig o'r rhywogaethau hyn. |