Loading translations… loading
Home Newsletters April 2010 "Perthi i Löynnod Byw" - prosiect cymunedol prawf yn Nyffryn Teifi

eNewsletter

Monthly eNewsletter



"Perthi i Löynnod Byw" - prosiect cymunedol prawf yn Nyffryn Teifi PDF Print E-mail

(codwyd yr erthygl hon o Lythyr Newyddion cangen De Cymru o Warchod Glöynnod Byw )

Yn ystod y gaeaf llwyddodd cangen De Cymru o  Warchod Glöynnod Byw i gael cyllid gan Grantiau i Bawb er mwyn cynnal prosiect prawf gyda golwg ar gymell y gymuned leol yn ardal Llangeler a Henllan i reoli perthi a chaeau mewn modd sy'n addas i frithribinau brown.

Gan fod yr ardal hon yn gadarnle i'r glöyn prin hwn, gofynnwyd i berchenogion tir lleol reoli eu tir mewn modd sy'n llesol i frithribinau brown (e.e. peidio â thocio na thorri perthi na phrysgwydd drain duon am sawl blwyddyn, ac yna eu tocio yn ôl trefn gylchdro). Yn gyfnewid yr oedd Gwarchod Glöynnod Byw yn helpu perchenogion tir drwy dorri drain duon i'r bôn pan fyddant yn rhy hen i fod yn ddefnyddiol i frithribinau brown - gan sicrhau bod cyflenwad cyson o blanhigion / blaen dyfiant ir i'r glöynnod hyn, a hynny heb i ffermwyr golli rhannau helaeth o'u tir yn barhaol.  Gosodwyd disgiau “Butterfly Friendly Hedgerows” ar byst er mwyn hybu'r prosiect ac er mwyn rhoi sylw i'r ffaith fod creaduriaid gwyllt, yn enwedig y glöyn nodedig hwn, yn cael eu cymell yn hytrach na bod eu cynefin yn cael eu ffustio i ebargofiant!

Gwnaed gwaith cyfrif wyau ym mis Rhagfyr pryd y gwelwyd bod nifer yr wyau ar y tiroedd dan sylw wedi cynyddu'n aruthrol o gymharu â'r niferoedd 5 mlynedd yn ôl; yn wir yr oedd y niferoedd bum gwaith yn fwy! 

Elfen arall o'r prosiect oedd estyn gwahoddiad i'r bobl leol, boed tir ganddynt neu beidio, i ddarlithiau yn neuadd y pentref.  Y neges oedd dangos i bawb yn y gymuned beth y gellid ei wneud mewn gwahanol sefyllfaoedd e.e. lleoedd bach, gerddi, meysydd / tir cymunedol, lonydd gwledig, ffermydd traddodiadol, ffermydd masnachol modern, a busnesau cefn gwlad e.e. busnesau gwyliau, ac ati.  Daeth deunaw o bobl i'r darlithiau hyn, ac i'r ymweliadau maes a'u dilynodd lle cafwyd cyfle i ddangos cynefinoedd ac wyau.

Yn sgil hyn mae Gwarchod Glöynnod Byw wedi cael gwahoddiad i gynnal arolwg ar dir 19 o lefydd, mae dau berchennog tir wedi cynnal arolwg o'u tir eu hunain, ac mae wyth o bobl newydd wedi ymuno â'n tîm arolygu.

Clustnodwyd tasgau a fyddai'n gwella'r cynefinoedd i frithribinau brown, ac a oedd yn dderbyniol gan y perchenogion tir, megis:  bondocio'r holl lwyni drain duon sydd dros ryw oedran a rhyw uchder, a gwaredu mieri i'w hatal rhag mygu llwyni drain duon sydd yn codi o'r newydd. (Mewn man arall yn Sir Gaerfyrddin plannwyd drain duon er mwyn cynyddu'r cynefin sydd ar gael.)

Blackthorn scrubBydd yr holl ffermydd oedd yn destun arolwg yn cael map a fydd yn amlygu ansawdd y cynefinoedd a niferoedd yr wyau eleni, a hynny fesul cae, ynghyd â chynghorion ynghylch sut mae rheoli'r cynefinoedd hynny (gan gynnwys cynllun cylchdro lle bo hynny'n berthnasol) a chyflenwad o ddisgiau.

Ar ôl cynnal arolygon ar 18 dyddiad rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth, yr oedd cyfanswm yr wyau yn 573 a hynny ar draws 22 daliad gwahanol. O'r rhain, yr oedd 16 yn safleoedd newydd. Yn sgil y gwaith hwn ychwanegwyd chwe sgwâr newydd at gofnodion y brithribin brown. Buddsoddwyd o leiaf 90 o ddiwrnodau gwirfoddoli yn y prosiect hwn eisoes. 

Er ei bod hi'n gynnar o hyd, mae'r ymdrechion hyn eleni wedi talu ar eu canfed, a'r cam nesaf yw chwilio am gyfleoedd i ddatblygu ac i helaethu'r prosiect.