Loading translations… loading
Home Newsletters April 2010 Y Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar yn cychwyn grwp yn Sir Gaerfyrddin

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Y Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar yn cychwyn grwp yn Sir Gaerfyrddin PDF Print E-mail

Royal
Society for the Protection of BirdsMae'r Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar wedi bod yn gwarchod adar gwyllt a chynefinoedd Cymru ers bron i gan mlynedd.  Mae’r gwaith sydd gennym i’w wneud yn anferth ac yn amrywiol, a'r nod yw sicrhau bod ein cynefinoedd yn iach ac yn gyforiog o adar a bywyd gwyllt. Rydym yn gwneud hyn drwy ymchwilio i broblemau a thrwy ymgyrchu i'w hunioni, drwy reoli gwarchodfeydd natur, a thrwy ysbrydoli, addysgu a chynghori eraill.  Rydym yn dibynnu ar eich cymorth a'ch haelioni chi er mwyn gwneud gwahaniaeth.

Mae grwp lleol newydd o’r Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar wedi ei sefydlu yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar gan wirfoddolwyr lleol, a'i nod yw trefnu gweithgareddau codi arian yn lleol megis sgyrsiau gyda’r hwyr, boreau coffi a theithiau tywys ynghyd â hybu gwaith y Gymdeithas gan helpu i godi arian ar gyfer gwaith cadwraeth.

Cynhaliodd y grwp ei ddigwyddiad cyntaf ar 26 Mawrth. Dan sylw oedd Cerddoriaeth a Ysbrydolwyd gan Ganeuon Adar a gyflwynwyd gan un o'n haelodau lleol sef y Dr Antony Griew - mae caneuon adar wedi ysbrydoli beirdd a chyfansoddwyr ar hyd y canrifoedd.  Byrdwn y noson oedd sut mae seiniau cyfathrebu adar wrth chwilio am gymar, wrth herio ceiliogod eraill, ac wrth rybuddio ynghylch peryglon, wedi troi'n gerddoriaeth i glustiau pobl.

Hefyd roedd Lewis James, Rheolwr Gwarchodfeydd Rhanbarthol y Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar, wedi rhoi darlith am Ynysoedd y Falkland – Pengwiniaid, Pedrynod ac Albatrosiaid, gan sôn am y cyfnod a dreuliodd yno yn cymryd rhan yn rhaglen monitro Adar Môr De'r Iwerydd.  Roedd y noson yn llwyddiant digamsyniol, a chafwyd arlwy a oedd yn llawn gwybodaeth ac eto'n ddifyr dros ben.

Os hoffech ymuno â grwp y Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar yn Sir Gaerfyrddin, neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Julie drwy ffonio 02920 35 3009 neu anfon neges e-bost at This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it