















| Cors Fferm y Ffrwd |
|
|
|
|
Mae'r warchodfa ar ffurf amrywiaeth o gynefinoedd. Mae yma gorslwyni helaeth ynghyd â mignen sy'n gyforiog o rywogaethau a glaswelltir corsiog, a hynny'n rhannol dros hen dwyn tywod. Ar hyd cyrion y warchodfa y mae ffen helyg (sef coetir gwlyb lle tyf helyg yn bennaf) ynghyd â phrysgwydd hwnt ac yma ar hyd y ffosydd sy'n britho'r safle. Hen gamlas yw'r ffin ar un ochr a hen reilffordd segur yw'r ffin i gyfeiriad arall. Mae'r warchodfa yn nodedig am nifer o blanhigion anarferol gan gynnwys Dibynlor Pibellaidd (Oenanthe fistulosa), sy'n rhywogaeth arwyddocaol o safbwynt Cymru, a rhywogaethau Llyfr Data Coch megis Ytbysen Las y Morfa (Lathyrus palustris) (sydd dan fygythiad ledled Prydain ond sy'n brin iawn yng Nghymru) ac Alaw Lleiaf (Hydrocharis morsus-ranae) (sydd yn brin ym Mhrydain a dan fygythiad yng Nghymru). Hefyd mae'n gartref i anifeiliaid di-asgwrn-cefn diddorol megis y Gwesyn Blewog (Brachytron pratense), a'r Coenagrion Amrywiol (Coenagrion pulchellum). Yr aderyn a gyplysir yn bennaf â'r warchodfa yw Telor Cetti (Cettia cetti), ac yn ystod misoedd yr haf pleser pur yw gwrando ar y teloriaid hyn yn canu nerth eu pennau. Mae'r telor hwn yn un o nodweddion nodedig y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac mae'n defnyddio'r safle yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys y prysgwydd gwasgaredig a'r corslwyni.
Cofnodwyd Trewynyn (Lysimachia vulgaris) mewn sawl man, a hynny fel arfer ger ffosydd, ond heb ddim o'r rhywogaethau cysylltiedig sy'n arfer tyfu yn ffeniau prin De Cymru. Yr oedd Ytbys Gleision y Morfa (Lathyrus palustris) - sef un o hynodion y safle - yn eu gogoniant adeg yr arolwg. Yn sgil tyllu am sampl o fawn gwelwyd bod tua 40 centimedr o fawn o dan y man lle tyfai Ytbys Gleision y Morfa, ac o dan hynny yr oedd haenau o Farchrawn Mawr (Equisetum telmateia) wedi eu lled-ffosileiddio. Awgryma hyn fod y ffen wedi ei ffurfio ar lystyfiant llaciau twyni. Trwy dreiddio ymhellach i galon y safle nag y mae'r rhan fwyaf o fotanegwyr yn arfer ei wneud, daethpwyd o hyd i ryw 100 o blanhigion Ytbys Gleision y Morfa ymhellach i'r gogledd-ddwyrain na phrif leoliad y planhigion hyn.
|