Loading translations… loading
Home Newsletters August/September 2009 Cyfleusterau newydd i'r gymuned ym Mhyllau Cwmoernant

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Cyfleusterau newydd i'r gymuned ym Mhyllau Cwmoernant PDF Print E-mail

Cwmoernant ponds Cwblhawyd rhaglen waith er mwyn gwella'r cyfleusterau pysgota cymunedol ac er mwyn rheoli'r cynefin yng nghyffiniau cronfeydd Tanerdy, Caerfyrddin.

Agorwyd y pyllau ar eu newydd wedd yn swyddogol ar 16eg Mehefin pryd y cafodd disgyblion Canolfan Elfed, yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, gyfle drwy'r cynllun ‘5 x 60’ i roi cynnig ar bysgota. Menter sy'n cael ei chyllido gan y Cynulliad yw ‘5 x 60' er mwyn ceisio sicrhau bod disgyblion uwchradd yn cael ‘5 x 60’ munud o weithgareddau corfforol bob wythnos. Roedd hyfforddwyr pysgota o Brosiect Pyllau Cwmoernant ac Ymddiriedolaeth Afonydd Sir Gaerfyrddin wrth law i roi hyfforddiant arbenigol.

Mae'r cyfleusterau newydd ar y safle yn cynnwys lle parcio pwrpasol i bobl anabl, gwell mynediad i bysgotwyr i'r llwyfannau pysgota, a meinciau newydd. Hefyd mae gwaith wedi ei wneud o ran teneuo'r coed, o ran rheoli chwyn yn y dyfroedd, ac o ran creu man agored newydd ar y pwll uchaf ar gyfer rhoi hyfforddiant pysgota. Er mwyn gwneud y pyllau'n fwy atyniadol i bysgotwyr gollyngwyd miloedd o bysgod bras i’r pyllau yn ystod y misoedd diwethaf.

Cwmoernant ponds Er taw gwella'r pyllau ar gyfer pysgotwyr yw'r brif flaenoriaeth, mae gwella'r cynefinoedd er mwyn hybu bioamrywiaeth yn un o'r amcanion hefyd. Trwy deneuo'r coed er mwyn i ragor o olau dydd gyrraedd y pyllau a thrwy adael pentyrrau o foncyffion hwnt ac yma, llwyddwyd i greu cynefin gwerthfawr i famaliaid bychain, amffibiaid, ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Y gobaith yw gwneud rhagor o waith i wella'r ardal ar gyfer bywyd gwyllt gan gynnwys gosod blychau nythu i adar a blychau i ystlumod ar goed. Hefyd mae prinder llystyfiant ar hyd cyrion y pyllau, sy'n gynefin gwerthfawr, felly byddai bwrw ati - gan gofio gofynion y pysgotwyr - i greu silffoedd bas ar hyd ymylon y pyllau a phlannu planhigion addas yn y mannau hynny, yn beth buddiol dros ben. Ar ben hynny, byddai'n ddefnyddiol pe byddai modd cyflwyno gwybodaeth am yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sy'n defnyddio'r safle i'r llu pobl sy'n dod yno i bysgota.

Mae'r gwaith hwn wedi ei ariannu gan bartneriaeth sy'n cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd Sir Gaerfyrddin a Phrosiect Pyllau Cwmoernant.

Cost y prosiect oedd £42,000 gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn ariannu rhan o'r swm a hynny drwy ddefnyddio'r incwm y mae'n ei gael yn sgil gwerthu trwyddedau pysgota. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn awyddus i sicrhau bod amrywiaeth o welliannau amgylcheddol yn y man hwn ochr yn ochr â chael rhagor o bysgotwyr i ddefnyddio'r cyfleusterau.

Y bwriad dros yr haf yw cynnal mentrau lleol i hybu pysgota ac i amlhau'r manteision cymdeithasol ac economaidd i'r gymuned leol yn sgil diddordeb pobl mewn pysgota.

Mae'r cronfeydd yn llecyn diddorol dros ben nid nepell o ganol y dref, a'r gobaith yw y bydd y prosiect yn rhoi hwb enfawr i ecoleg y pyllau hyn a'r cyffiniau ac yn sicrhau bod y bysgodfa yn fwy cynaliadwy.