Loading translations… loading
Home Newsletters August/September 2009 Cynnal Prosiect Cacwn yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Cynnal Prosiect Cacwn yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel PDF Print E-mail

Carmel FlowersMae Ymddiriedolaeth y Glaswelltiroedd wedi cael cyllid gan raglen "Gweithio gyda Natur" Grantscape er mwyn rhoi hwb i niferoedd cardwenyn, sef un o'r mathau prinnaf o gacwn ym Mhrydain, a hynny drwy adfer prif gynefin y rhywogaeth - sef glaswelltir sy'n gyforiog o fywyd gwyllt -  yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel. Gan gydweithio â'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Cacwn, bydd y prosiect yn hoelio sylw ar 40 hectar o laswelltiroedd, sy'n destun Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, er mwyn adfer y glaswelltiroedd a sefydlu trefn bori briodol. Hefyd, drwy brynu tir sy'n ffinio ar y warchodfa bresennol, bydd y prosiect yn helaethu'r cynefin sydd ar gael ar gyfer y rhywogaeth hon, gan ddadwneud rhywfaint ar y darnio sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac felly'n helpu i greu rhagor o gynefin sy'n addas ar gyfer y cacwn hyn.

O ganlyniad i ddulliau amaethu dwys, datblygiadau adeiladu, ac esgeulustod, yn ystod y 70 mlynedd diwethaf collwyd bron i 97% o'r glaswelltiroedd sy'n gyforiog o rywogaethau ym Mhrydain. Ochr yn ochr â'r dirywiad hwn, bu dirywiad enbyd o ran niferoedd cacwn cynhenid. Mae'r gardwenynen ymhlith y ddwy rywogaeth brinnaf, a dim ond chwech o boblogaethau sy'n weddill ym Mhrydain. Dengys gwaith ymchwil yn ddiweddar fod y poblogaethau hyn yn fregus o fach, a bod gwir bosibilrwydd i'r rhywogaeth ddarfod o'r tir. Yn ôl y cofnodion swyddogol mae'r rhywogaeth i'w chael mewn dwy ardal yng Nghymru sef yn Abertawe ac ym Mhenfro; ond mae'r rhywogaeth wedi ei gweld hefyd yng Ngharmel, felly'r bwriad yw uno'r ddwy boblogaeth.

Carmel NNRBydd y prosiect hwn yn hybu'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth ar gyfer y gardwenynen drwy wneud gwaith cynefin sy'n rhoi cyfle i'r boblogaeth bresennol amlhau ac ymestyn dros ardal ehangach.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Jemma Saunders yn Ymddiriedolaeth y Glaswelltiroedd ( This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it ).