Loading translations… loading
Home Newsletters August/September 2009 noson genedlaethol gwyfynod 18–19 Medi 2009

eNewsletter

Monthly eNewsletter



noson genedlaethol gwyfynod 18–19 Medi 2009 PDF Print E-mail

Scarlet Tiger moth © Jon Baker(oddi ar wefan National Moth Night)

Mae Noson Genedlaethol Gwyfynod yn gyfle i ddathlu gwyfynod Prydain a chofnodi gwyfynod ledled Prydain. Cynhaliwyd y Noson hon am y tro cyntaf ym 1999 ac mae wedi ei chynnal bob blwyddyn ers hynny er mwyn hoelio sylw ar gofnodi gwyfynod ar wahanol adegau yn y tymor.

Mae'r Noson yn agored i bawb - boed yn arbenigwyr neu'n ddechreuwyr. Ar y noson benodedig mae pobl ledled Prydain yn cael eu cymell i gofnodi'r gwyfynod a welant yn y man a ddewiswyd ganddynt. Mae'r canlyniadau yn rhoi bod i'r arolwg mwyaf ym Mhrydain o wyfynod. Llwyddwyd i grynhoi llawer o wybodaeth bwysig ar y Noson hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys rhywogaethau newydd ar gyfer nifer o siroedd, safleoedd newydd ar gyfer rhywogaethau prin, a chofnodion o wyfynod mudol prin. Yn wir yn 2008 daethpwyd o hyd i boblogaeth o Grwbachod Gwyn (sef rhywogaeth a welwyd ddiwethaf ym Mhrydain 70 o flynyddoedd yn ôl) yn Iwerddon.

Am y tro cyntaf bydd Noson Genedlaethol Gwyfynod yn cael ei chynnal dros ddwy noson yn 2009. Y rheswm dros hynny yw ein bod yn gofyn i'n cofnodwyr a'r cyhoedd gadw llygad am wyfynod a fydd wedi cael nod lliw mewn safleoedd penodol. Y gobaith yw gallu dysgu rhywbeth am y modd y mae gwyfynod yn mudo. Mae mis Medi yn fis arbennig o dda i sylwi ar ymfudiadau gwyfynod, gan fod epil brodorol gwyfynod a ymfudodd yma yn y gwanwyn/haf yn gymysg â'r gwyfynod ychwanegol sy'n croesi o'r cyfandir. Fel sy'n wir am bob mudo, mae'r tywydd yn ddylanwad mawr ar yr hyn sy'n digwydd. Ein gobaith yw y cawn noson gynnes ag awelon cryf o'r de er mwyn cludo gwyfynod tua'r gogledd o wledydd cynhesach Ewrop neu hyd yn oed o Ogledd Affrica.

Y tro diwethaf i'r noson hon gael ei chynnal ym mis Medi oedd yn 2006, pryd y'i cynhaliwyd ar 23 Medi. Y flwyddyn honno cofnodwyd cyfanswm o 496 o rywogaethau ar 728 o safleoedd ledled Prydain.

Gallwch ddewis cymryd rhan yn Noson Genedlaethol Gwyfynod ym mha ffordd bynnag a ddewiswch. Gallech osod trap gwyfynod yn eich gardd, gallech edrych am wyfynod sy'n glanio ar ffenestr eich cegin neu gallech fynd i ddigwyddiad cyhoeddus. Os ydych yn gofnodwr brwdfrydig gallech fynd â'ch trapiau gwyfynod a'ch generadur symudol gyda chi i ardal anghyfarwydd i chwilio am rywogaethau anarferol. Ni waeth ymhle y byddwch cadwch lygad barcud am wyfynod sydd â nod lliw, gan ein bod yn awyddus iawn i gael gwybodaeth am unrhyw rai o'r rhain. Petaech yn ddigon ffodus i ddod o hyd i wyfyn sydd â nod lliw, gofalwch eich bod yn tynnu ffotograff clir fel y gallwn gadarnhau'r cofnod a chadarnhau hefyd o ble mae'r gwyfyn wedi dod.

Gofalwch eich bod yn cyflwyno eich data erbyn 1 Rhagfyr 2009. Y ffordd orau o gyflwyno data yw trwy ddefnyddio'r ffurflen cyflwyno data sydd ar 'y dudalen gyflwyno gwybodaeth': www.nationalmothnight.info/events/results.php.