Loading translations… loading
Home Newsletters August/September 2009 Prosiect Planhigion Dan Fygythiad gan y BSBI

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Prosiect Planhigion Dan Fygythiad gan y BSBI PDF Print E-mail

Wood Bitter Vetch © Richard PryceYn ystod y blynyddoedd nesaf bydd aelodau'r Botanical Society of the British Isles (BSBI), dan arweiniad y Cofnodwyr Sirol, yn monitro rhai o'r planhigion hynny nad oeddynt yn ddigon prin i gael sylw arbennig yn y gorffennol ac a oedd yn ddigon cyffredin i bobl eu cymryd yn ganiataol. Y syndod yw cyn lleied a wyddom am y planhigion hyn, y mae llawer ohonynt dan fygythiad bellach yn sgil colli cynefinoedd, rheolaeth wael ar safleoedd a'r holl ffactorau eraill sy'n peri bod ein planhigion cynhenid yn colli tir yn raddol. Mae'r Prosiect Planhigion Dan Fygythiad gan y BSBI yn dewis ystod o rywogaethau i'w hastudio ledled Prydain y gallai dwy neu dair ohonynt ddigwydd mewn unrhyw sir.

Dechreuodd y prosiect y llynedd gan roi sylw yn Sir Gaerfyrddin i Gytwf (Monotropa hypopitys) a Dinodd Blynyddol (Scleranthus annuus). Ni ddaethpwyd o hyd i'r naill na'r llall yn y safleoedd a ddewiswyd ar hap gan y BSBI o blith y safleoedd lle y'u cofnodwyd yn y gorffennol, er eu bod yn bresennol o hyd mewn ambell fan yn y sir.

Frog Orchid © Richard PryceY rhywogaethau sydd dan sylw eleni yw Llys Ysgyfarnog (Coeloglossum viride), Dibenlor Pibellaidd (Oenanthe fistulosa) a Physen y Coed (Vicia orobus). Un o'r safleoedd a ddewiswyd ar hap ar gyfer chwilio am y Dibenlor Pibellaidd yw Cors Fferm y Ffrwd. Gwyddom fod y planhigyn hwn yn dal i dyfu yno, ond byddwn yn bwrw ati er hynny yn ystod yr wythnos nesaf i gadarnhau ei fod yn tyfu yno o hyd. Ein gobaith yw cael o leiaf rai canlyniadau cadarnhaol ar gyfer Pys y Coed, ond hyd yn hyn nid ydym wedi llwyddo i ail ddod o hyd i blanhigion yn y safleoedd a ddewiswyd ar hap. Hefyd byddwn yn edrych eto am Lys Ysgyfarnog, ond nid ydym yn obeithiol y deuwn o hyd i rai.

Mae Pysen y Coed yn aelod o deulu'r pys. Mae'n debyg i Bys Llygod (Vicia cracca) ond bod y blodau'n binc yn hytrach na glas. Nid oes gan y dail dendril ar ben y dail, ond y peth mwyaf nodweddiadol am Bys y Coed yw bod ganddynt wythiennau rhwyllog amlwg, sef nodwedd anghyffredin ymysg codlysiau. Planhigyn a arferai dyfu ar ddolydd gwair traddodiadol ar dir uchel yw hwn, ac mae'r lleihad sydd wedi bod yn ddiweddar o ran ei ddosbarthiad i'w briodoli'n bennaf i'r lleihad a fu o ran y math hwn o gynefin. Bellach mae'r rhan fwyaf o'r dolydd hynny, oedd mor gyfoethog eu blodau, yn borfeydd defaid lle mae'r amodau yn gwbl anffafriol i Bys y Coed. Yn wir mae'r rhan fwyaf o'r cofnodion diweddar yn Sir Gaerfyrddin yn blanhigion ar ymylon ffyrdd lle nad oes defaid yn pori, ac lle mae'r llystyfiant yn cael ei ladd unwaith neu ddwy y flwyddyn yn unig - mae'n rhaid bod y drefn hon yn cyfateb yn ffafriol i'r dull traddodiadol o reoli dolydd. Mae 25 o gofnodion yn y sir yn y gorffennol, ond un yn unig ers 2000.

Planhigyn wmbilifferaidd sydd â dail a choesynnau llwyd yw Dibenlor Pibellaidd ac mae'n tyfu mewn ffeniau a chorslwyni ar hyd yr arfordir. Mae'r blodau gwynion i'w gweld mewn clystyrau bychain y mae eu ffurf yn ymdebygu i ymbarél (wmbelau) ar frig y coesynnau, a all gyrraedd rhyw fetr o uchder. Ar ôl blodeuo mae'r fflurben (fflurgainc) yn amlwg iawn â'u hadau bachog. Cofnodwyd y planhigyn hwn ar ddim ond pymtheg safle yn Sir Gaerfyrddin yn y gorffennol, ond gan fod cynefinoedd wedi eu colli yn y cyfamser mae'n debygol bod y nifer yn llai o dipyn bellach.

Tubular Water DropwortDim ond pum gwaith y cofnodwyd Llys Ysgyfarnog yn Sir Gaerfyrddin yn y gorffennol ac mae'r cofnodion diweddaraf yn y 1990au. Planhigion unigol oedd y rheiny ar Feysydd Tanio y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhentywyn ac mewn cae ger Abergorlech oedd yn cael ei bori gan ddefaid. Planhigyn bychan disylw yw hwn sydd â blodau melynwyrdd ac sydd yn tyfu ar laswelltiroedd sych niwtral neu galchaidd lle mae'r borfa yn fyr. Y peth hawsaf yn y byd yw methu sylwi ar y planhigyn hwn.

Byddai Richard Pryce, Cofnodydd y BSBI yn y sir, yn falch o gael gwybod am unrhyw gofnod o'r rhain neu o rywogaethau'r llynedd. O gael gwybodaeth, byddai Richard Pryce yn mynd ar drywydd hynny ac yn cydnabod yn ei adroddiadau y sawl a ddaethai o hyd i'r planhigyn. Gellir cysylltu â Richard drwy anfon neges e-bost at This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it