Loading translations… loading
Home Newsletters August/September 2009 Rheoli dolydd er lles natur yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Rheoli dolydd er lles natur yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol PDF Print E-mail

Hygocybe splendidisma(addasiad o erthygl a gyhoeddwyd yn Natur Cymru)

Mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn llawer mwy na dim ond gerddi ffurfiol a thy gwydr mawr, gan fod yno hefyd fferm organig ysblennydd sydd â mwy nag 20 o gaeau ac sy'n ymestyn dros 400 o erwau. Mae'r fferm hon yn cael ei rheoli nid yn unig fel fferm weithredol ond hefyd fel llecyn lle mae planhigion gwyllt cynhenid yn cael eu cymell i dyfu ac i fynd ar led.

Pan ddaeth y tir i feddiant yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn yr 1990au, yr oedd hi'n amlwg fod llawer o'r tir amaethyddol hwn heb ei amaethu'n ddwys, yn ots i beth oedd wedi digwydd i gymaint o gefn gwlad Prydain. Felly etifeddodd yr Ardd Fotaneg ddolydd a phorfeydd oedd yn cynnwys planhigion oedd yn brin bellach yng nghefn gwlad. Fodd bynnag, yr oedd y tir hwn wedi dirywio ychydig - gan fod brwyn a gweiriau bras wedi ymledu'n raddol, a chan fod cynaeafu silwair wedi bod yn digwydd yn ystod y blynyddoedd olaf yn hytrach na chywain gwair yn y dull traddodiadol.

Felly gan fod dyhead i gynnal a gwella'r tir hwn fel cynefin lle gallai planhigion cynhenid ffynnu, bu'n rhaid i reolwyr yr Ardd benderfynu ar y ffordd orau o wneud hynny. Penderfynwyd peidio â defnyddio gwrteithiau na chwistrelliadau cemegol, gan ddilyn egwyddorion amaethu organig yn unig. Hefyd rhoddwyd y gorau i ddefnyddio chwynladdwyr gan nad oedd modd sicrhau na fyddid yn difa, yn ddamweiniol, bethau byw pwysig yn y pridd.

Cynhaliwyd arolygon o'r tir er mwyn cael gwell dealltwriaeth o werth ecolegol y cynefin ac er mwyn helpu i bennu blaenoriaethau o ran ymhle yr oedd angen rheolaeth ac o ran pa ddulliau rheoli i'w defnyddio - er enghraifft gadael i'r llystyfiant dyfu ac yna ei ladd, neu adael i anifeiliaid ei bori, ac os felly penderfynu ar y math o borwyr.

Yn ystod y blynyddoedd y mae'r Ardd wedi bod yn rheoli'r tir, dysgwyd gwersi pwysig ynghylch y gwahanol dechnegau rheoli ar gyfer gwella bioamrywiaeth y safle, ac yn sgil hynny cabolwyd y technegau hynny.

Gwelwyd bod lladd y gwair a'i gywain yn lleihau ffrwythlondeb y pridd, a bod hynny'n golygu bod rhagor o flodau gwyllt yn ffynnu yno. Newid bychan arall o ran y drefn reoli oedd penderfynu peidio â lladd yr holl gaeau ar yr un pryd gan sicrhau hefyd fod llochesau gwyrddlas bychain ar ôl ymhob cae - mae lladd y cae cyfan yn golygu bod pryfed, mamaliaid bychain ac adar yn colli eu ffynonellau bwyd a'u mannau llochesu ar amrantiad. Y drefn bellach yw cael cylchdro blynyddol ar gyfer y llecynnau hynny nad ydynt yn cael eu lladd.

Yn ogystal datblygwyd trefn bori sef bod gwartheg yn pori'r tir yn y gwanwyn er mwyn cadw'r gweiriau rhag tyfu'n rhy gryf, ac yna bod gwartheg yn pori eto yn yr hydref er mwyn damsang y ddaear a chreu mannau i hadau wreiddio. Dewiswyd gwartheg yn hytrach na cheffylau a defaid, gan fod y rhain yn borwyr ffyslyd iawn. Nid yw'r gwartheg duon Cymreig sy'n pori'r tir hwn yn borwyr ffyslyd, ac felly maent yn cael gwared â'r llystyfiant bras. Hefyd, drwy sicrhau nad oes gormod o wartheg yn pori'r caeau, mae modd cael amrywiaeth o ran uchder y borfa, sy'n golygu bod lloches hwylus i anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Grassland fungiYn y mannau gwlybion mae'r tir yn cael ei ddamsang gan y gwartheg - mae hyn yn gallu bod yn niweidiol i blanhigion brau ac yn gallu rhoi cyfle i chwyn ymledol ffynnu, ond mae gadael i wartheg ddamsang ychydig ar dir o'r fath yn fodd i wasgu hadau'n ddyfnach i'r pridd a rhoi cyfle i flodau newydd ymsefydlu. Hefyd mae gwartheg yn ardderchog o ran damsang brwyn ymledol a phrysgwydd helyg a gwern.

Dros y blynyddoedd  yn sgil y camau rheoli hyn, mae gweiriau llai bras a blodau lliwgar megis y Bengaled,  y Feddyges Las, Cribau San Ffraid, Tamaid y Cythraul, Cribell Felen, Serenllys, a'r Tegeirian Llydanwyrdd wedi ymsefydlu yn y porfeydd hyn.

Mae defaid hefyd yn cael eu defnyddio mewn rhai porfeydd lle mae draeniad da. Mae pori'n grop yn rhoi cyfle i amrywiaeth o ffwng capiau cwyr - a'u lliwiau melyn, pinc, oren, gwyn, gwyrdd a choch - ffynnu. Cynhaliwyd arolwg ag arian gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn 2007 pryd y cofnodwyd o leiaf 18 rhywogaeth o gapiau cwyr Hydrocybe ar un llethr yn unig, a hynny ochr yn ochr â chapiau cwyr pwysig eraill. Mae presenoldeb y ffyngoedd hyn yn dangos yn amlwg fod y tir hwn wedi ei amaethu mewn dull traddodiadol dros gyfnod maith. Nid yw'r capiau cwyr hyn yn ffynnu lle mae gweiriau'n tyfu'n uchel, ac felly i gadw'r ffyngoedd hyn mae'n rhaid cael defaid i bori'r tir.

Mae'n rhaid bwrw ati'n rheolaidd i reoli'r dolydd hyn - maent yn mynd ar eu gwaeth yn gyflym os cânt eu gadael heb eu rheoli, gan beri bod y blodau gwyllt yn diflannu o dan chwyn a phrysgwydd.

Bwriad Tim Bevan, sy'n rheoli fferm yr Ardd, yw cael gwartheg i bori rhai o'r caeau 'da' (o safbwynt amaethyddol) er mwyn ceisio creu cynefin brith lle mae uchder y glaswellt yn amrywio o gae i gae.

Bydd hyn oll yn cael ei fonitro'n fanwl er mwyn gofalu bod y dull rheoli yn gywir, a bod yr amodau yn addas i amrywiaeth o blanhigion. Bydd mapiau yn cael eu llunio o'r holl ddolydd hyn er mwyn amlygu'r planhigion sydd yn tyfu - bydd yr arolygon rheolaidd yn fodd i weld unrhyw newidiadau sy'n deillio o'r gwaith rheoli hwn.