Loading translations… loading
Home Newsletters December 2009 ... ac mae camau'n cael eu cymryd yn Sir Gaerfyrddin

eNewsletter

... ac mae camau'n cael eu cymryd yn Sir Gaerfyrddin PDF Print E-mail

© Isabel MachoMae'n debygol bod mwy na mil o rywogaethau o ffyngau yn Sir Gaerfyrddin – mwy na'r holl fathau o goed, blodau a gweiriau yn y sir gyda'i gilydd. Yn ddiamheuaeth mae ffyngau yn ddiddorol dros ben, ac mae'r amrywiaeth o ffurfiau ac arogleuon yn ddigon o ryfeddod. Mae gan Sir Gaerfyrddin nifer cynyddol o bobl sydd am ddysgu rhagor am yr amrywiaeth o ffyngau sydd gennym yn y sir. Hefyd trefnir digwyddiadau yn rheolaidd gan grwpiau megis yr Ymddiriedolaeth Natur, Naturiaethwyr Llanelli, a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ond nid oes dim grwpiau ffurfiol yn bod sy'n hoelio sylw ar gynnal arolygon / hyfforddiant ac ar gynyddu ymwybyddiaeth. Gan ddefnyddio cyllid gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, gobaith Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin yw sefydlu Rhwydwaith Cofnodi Ffyngau Sir Gaerfyrddin a'i leoli yn yr Ardd Fotaneg. Mae'r gwe-dudalennau ar gyfer y rhwydwaith hwn yn cael eu creu ar hyn o bryd ar wefan Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin (www.carmarthenshirebiodiversity.co.uk). Byddwch yn gallu dysgu rhagor ar y tudalennau hyn am ffyngau Sir Gaerfyrddin, gan gael gwybodaeth ynghylch ble mae chwilio amdanynt, ac ynghylch digwyddiadau, hyfforddiant, a gwaith maes, ynghyd â chyflwyno ymholiadau am ffyngau rydych wedi eu canfod, a defnyddio dolenni i ddysgu rhagor am ffyngau Prydain.

Cadwch lygad barcud am dudalennau'r Rhwydwaith ar y wefan!

 

© Isabel Macho © Isabel Macho