Loading translations… loading
Home Newsletters December 2009 Beth sydd i'w weld ym mis Rhagfyr…

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Beth sydd i'w weld ym mis Rhagfyr… PDF Print E-mail

Redwing © Welsh Wildlife PhotographyEr ei bod yn berfedd gaeaf mae pethau digon diddorol i'w gweld yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'r ymwelwyr haf wedi hen ymadael, ond erbyn hyn mae'r ymwelwyr o'r gogledd wedi cyrraedd. Mae ein glannau, ein haberoedd, ein hafonydd a'n gwlyptiroedd yn gartref dros y gaeaf i amrywiaeth helaeth o rydyddion ac adar y gwlyptir - gan fod heidiau enfawr o chwiwellau, corhwyaid, cornicyllod, pibyddion coesgoch, gylfinirod, gwyddau gwyllt a chwtiaid aur yn dod yma. Mae gwybodaeth am yr ymwelwyr diweddaraf a ble mae eu gweld ar gael ar wefan Clwb Adar Sir Gaerfyrddin (www.carmarthenshirebirds.co.uk).

Daw socanod eira a choch dan adain yn eu miloedd i fwydo ar aeron ein perthi, ac os bydd hi'n oer iawn efallai y gwelwn sawl cynffon sidan, sy'n adar prydferth iawn, yn dianc yma rhag tywydd garw'r gogledd pell.
Ond cofiwch nad oes angen symud o'ch lolfa i gael golwg ar amrywiaeth o adar - trwy fwydo adar yn eich gardd gallwch ddenu myrdd o adar atoch, gan fwynhau gwylio adar o glydwch eich cartref.

Mae rhywfaint o liw ar hyd lle o hyd - efallai y gwelwch flodau'r eithin hwnt ac yma hyd yn oed ym mis Rhagfyr, ac mae aeron oren y biswydden, eirin moch coch y ddraenen wen, ac aeron coch y gelynnen yn emwaith cain yn ein coedwigoedd a'n perthi.

Yr adeg hon o'r flwyddyn yw'r amser gorau i werthfawrogi rhai mathau o fwsoglau, rhedynnau a chennau gan fod y coed wedi colli eu dail, ac mae'n werth oedi am ennyd i gael golwg fanwl ar y rhywogaethau gwych hyn - sy'n weithiau celf bychain! Mae dail tafod yr hydd yn cadw'n loyw drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n bosibl fod rhai ffyngau ar hyd lle o hyd, gan gynnwys y cyrn melyn sy'n ffwng bychan hynod o drawiadol. Dim ond craffu'n fanwl ar gangen neu graig sydd angen ei wneud i gael golwg ar rywfaint o'r amrywiol gennau sydd i'w cael yn y sir.

Waxwing © Welsh Wildlife Photography Fieldfare © Welsh Wildlife Photography
Mosses in the Twyi forest