Loading translations… loading
Home Newsletters December 2009 Menter newydd ar fin cael ei chyflwyno yn Sir Gaerfyrddin: Byw Sir Gâr

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Menter newydd ar fin cael ei chyflwyno yn Sir Gaerfyrddin: Byw Sir Gâr PDF Print E-mail

Living Carmarthenshire logoBellach mae cynaliadwyedd – ac yn enwedig y materion sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd - yn un o flaenoriaethau Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae prosiect prawf yn cael ei gynnal mewn ardal benodol yn Sir Gaerfyrddin er mwyn estyn cymorth mewn modd mwy cynaliadwy o ran byw'n gynaliadwy, o ran y newid yn yr hinsawdd, ac o ran lleihau gollyngiadau carbon.

Cynhelir prosiect 'Byw Sir Gâr’ yng Nglanyfferi ar y cychwyn, ond bydd yn cael ei helaethu i gymunedau eraill o 2010 ymlaen. Mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu ar y cyd â'r prosiect Cymunedau Di-garbon sy'n cael ei gyllido gan y Cynllun Datblygu Gwledig. 

Lansiwyd y prosiect ym mis Tachwedd 2009 pryd y cynhaliwyd mis o weithgareddau a digwyddiadau er mwyn hyrwyddo'r themâu canlynol:

  • arbed adnoddau,
  • arbed ynni
  • teithio'n ddoeth
  • siopa'n lleol ac yn foesegol,
  • gofalu am eich ardal ac am fioamrywiaeth eich ardal.

Mae taith gerdded wedi ei chynnal eisoes, pryd y cafwyd cyfle i hoelio sylw ar rywogaethau a chynefinoedd yr arfordir, ar eu pwysigrwydd yn rhyngwladol, ar sut y maent yn hwb i'n heconomi ac ar sut mae’r cynefinoedd hynny’n gweithredu fel cynllun naturiol i amddiffyn rhag llifogydd. Trafodir ffyrdd eraill o weithio gyda'r gymuned leol, gan gynnwys cynnal archwiliad bioamrywiaeth a phlannu coed.

Y Cyngor sy'n arwain y prosiect a hynny law yn llaw ag Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin, BTCV, Her Iechyd Sir Gâr ac eraill.