|
Plantlife yn llunio strategaeth ar gyfer planhigion is a ffyngau yng Nghymru… |
|
|
|
|
Mae amrywiaeth o blanhigion is a ffyngau yng Nghymru. Er bod Cymru yn rhyw 10% yn unig o gyfanswm tir Ynysoedd Prydain, mae'n cynnal 75% o'r mwsoglau a llysiau'r afu, 74% o'r cennau, ac 80% o'r ffyngau rhwd.
Lluniodd Plantlife strategaeth sy'n amlinellu'r nodau a'r camau gweithredu a fydd yn helpu i warchod y grwpiau pwysig hyn o blanhigion is a ffyngau. Mae'r rhywogaethau hyn yn gwbl allweddol i'n ecosystemau ni, i strwythur ein pridd ni, ac i les pobl, gan eu bod yn holl bwysig yn ein bwydydd a'n meddyginiaethau ni ac ar gyfer y diwydiant dillad.
Ymhlith nodau'r strategaeth y mae sicrhau bod mapiau dosbarthiad o'r holl blanhigion is a ffyngau ar gael yng Nghymru, a chynnal rhestr gyhoeddus o'r rhywogaethau hyn yn genedlaethol ac yn sirol. Ystyrir bod hybu adnabod a gwarchod cynefinoedd allweddol ar gyfer planhigion is a ffyngau yn brif nod, ynghyd â chynnal arolygon o'r safleoedd hynny a'u rheoli mewn modd cydnaws.
Mae'n holl bwysig fod hyfforddiant ar gael i bobl sydd am ymddiddori yn y maes hwn, oherwydd ac eithrio dyrnaid o arbenigwr prin yw'r bobl sy'n meddu ar y sgiliau i adnabod y rhywogaethau hyn. Hefyd mae cynyddu ymwybyddiaeth yn bwysig er mwyn sicrhau bod digon o ddiddordeb a sgiliau arbenigol ar gael i gynnal arolygon ac i wneud gwaith cadwraeth effeithiol. |