Loading translations… loading
Home Newsletters December 2009 Prosiect Pathewod

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Prosiect Pathewod PDF Print E-mail

Dormouse © J HartleyLizzie Wilberforce a Rob Parry o'r Ymddiriedolaeth Natur sy'n rheoli Gwarchodfa Rhos Cefn Bryn ger Llannon, a hynny'n rhannol am fod pathewod yno. Mae'r mamaliaid prin hyn yn byw yn y perthi trwchus ac yn y coetir, ac maent yn cael eu monitro'n flynyddol gan Jacqueline Hartley, sy'n ecolegydd ac yn warden gwirfoddol y safle.

Gan fod Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi neilltuo arian drwy Bartneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin, y bwriad yw ceisio cael rhagor o wybodaeth am bresenoldeb pathewod yn yr ardal sydd o amgylch gwarchodfa Rhos Cefn Bryn, lle mae'r boblogaeth hysbys, ynghyd ag ymchwilio i'r modd y mae pathewod yn defnyddio'r ardal ac yn symud trwyddi. Bydd hyn yn hwb pellach i'r gwaith sy'n cael ei wneud er mwyn gwella'r dirwedd leol ar gyfer gwarchod pathewod ac er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth pobl o bathewod yn Sir Gaerfyrddin – sef eu dosbarthiad, eu hanghenion o ran cynefin, a sut mae gwybod eu bod yn bresennol.

Bydd blociau o goetiroedd sydd â dolenni cyswllt â'r warchodfa yn cael eu clustnodi, a bydd blychau nythu i bathewod yn cael eu gosod ynddynt. Hefyd bydd tiwbiau nythu yn cael eu gosod yn y perthi cysylltiol er mwyn gweld sut mae pathewod yn defnyddio'r perthi hynny.

Yn ogystal cynhelir asesiad addasrwydd er mwyn cloriannu posibiliadau'r tir cyfagos o ran cynnal symudiadau pathewod. Saif safle Rhos Cefn Bryn ar ddarn o dir sydd yn rhyw 6.5 cilomedr2 ac sydd wedi ei amgylchynu gan ffyrdd dosbarth C neu uwch (hynny yw ffyrdd sy'n debygol o fod yn rhwystr i symudiadau pathewod, a lle nad oes llwybrau cyswllt ar hyd coed). Caiff lluniau o'r awyr o'r bloc hwn eu hastudio, a bydd coetiroedd a pherthi cysylltiol yn cael eu mapio. Bydd hyn yn dangos ble y gellir cysylltu coetiroedd, gan greu dolenni cyswllt rhwng poblogaethau hysbys o bathewod, a hefyd, a'r un mor bwysig, ble mae bylchau yn y dolenni cyswllt er mwyn gallu cau'r bylchau hynny.

Bydd taflen yn cael ei llunio er mwyn rhoi gwybod i bobl ble mae poblogaethau hysbys o bathewod yn Sir Gaerfyrddin (ar ffurf “ardaloedd allweddol” eang), er mwyn helpu pobl i adnabod yr arwyddion sy'n dangos bod pathewod yn bresennol, ac er mwyn darparu canllawiau cryno ynghylch sut mae rheoli coetiroedd a pherthi er budd pathewod.

Y gobaith yw taw hwn fydd cam cyntaf prosiect a fydd yn cynnwys cynnal asesiad o goetiroedd eraill yn y cyffiniau gan gydweithio â pherchenogion tir a rheolwyr tir yn lleol.