Loading translations… loading
Home Newsletters December 2009 Rhywogaeth sy'n destun Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth: Y Llysywen

eNewsletter

Rhywogaeth sy'n destun Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth: Y Llysywen PDF Print E-mail

Arferai llyswennod fod yn gyffredin yn afonydd Sir Gaerfyrddin, ond bu gostyngiad sydyn o ran niferoedd y creadur rhyfeddol hwn y mae cymaint i'w ddysgu amdano o hyd.

Mae llyswennod yn elfen bwysig o ddeiet mamaliaid ac adar megis dyfrgwn a chrychyddion, ac yn rhan bwysig o ecosystemau dyfroedd croyw Cymru. Yn ogystal, mae bywoliaeth 250,000 o bysgotwyr ledled Ewrop yn dibynnu ar lyswennod.

© Environment Agency Wales, Sustainable Fisheries Project TeamY farn gyffredinol bellach yw bod llyswennod Ewrop (Anguilla anguilla) yn cael eu geni ym môr Sargasso ger Bermuda a bod y larfâu yn cael eu cludo gan Lif y Gwlff tuag at Ewrop ar daith a allai gymryd hyd at flwyddyn. Erbyn iddynt gyrraedd yr ysgafell gyfandirol mae'r larfâu hyn yn dryloyw, ac yn y gwanwyn dechreuant symud i'r aberoedd ac i ddyfroedd croyw.

Yna mae lliw yn datblygu yng nghyrff y larfâu, a'r enw arnynt wedyn yw llysywenigion sy'n edrych fel fersiynau bychain o lyswennod. Yn eu blaenau yr ânt ar eu taith drwy ddyfroedd croyw, lle mae eu lliw yn newid unwaith eto gan droi'n llyswennod brown neu felyn.

Ar ôl cyrraedd eu llawn dwf - mae rhai llyswennod yn gallu byw am 40 o flynyddoedd a chyrraedd 1 metr o hyd - maent yn mudo yn ôl i'r cefnfor er mwyn teithio i fôr Sargasso, lle maent yn silio (dodwy) ac yna'n trigo.

Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd mae dirywiad o hyd at 95% wedi bod o ran niferoedd llyswennod yn Ewrop yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Dengys adroddiadau fod llawer llai o lysywenigion yn cyrraedd aberoedd, afonydd a nentydd Prydain yn y gwanwyn o gymharu ag ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae nifer y llysywenigion sy'n cael eu dal yn llai o dipyn nag oedd - lle byddai pysgotwyr gynt yn disgwyl dal rhyw 40 cilogram, rhyw gilogram sy'n arferol bellach. Yn ôl pob golwg mae'r rhywogaeth bwysig hon mewn trafferthion - sy'n destun gofid i swyddogion pysgodfeydd, naturiaethwyr a physgotwyr.

Un rheswm posibl dros y dirywiad yw bod strwythurau artiffisial megis coredau ac argaeau yn atal llyswenigion rhag cyrraedd y cynefinoedd hynny yn y dyfroedd croyw lle maent yn tyfu i'w llawn dwf. Damcaniaeth arall yw y gall fod parasit yn eu lladd, neu fod dulliau pysgota anghyfreithlon yn effeithio ar eu niferoedd.

© Environment Agency Wales, Sustainable Fisheries Project TeamMae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gosod "ysgolion" arbennig ar afonydd yng Nghymru, gan gynnwys ar gored Dolbantau ar afon Cletwr yn Llanfihangel-ar-arth, Sir Gaerfyrddin, er mwyn ceisio atal y dirywiad yn niferoedd y rhywogaeth hon. Mae'r ysgolion hyn ar ffurf brwsys gan alluogi llyswennod i gael gafael wrth ddringo heibio i rwystrau sy'n eu hatal ar eu taith. Trwy ddefnyddio'r ysgolion arbennig hyn maent yn gallu mynd heibio i'r coredau sy'n atal eu taith ac yn eu blaenau i'r cynefinoedd hynny lle maent yn gallu cyrraedd eu llawn dwf a ffynnu.