|
Mae'r Ymddiriedolaeth Natur yn cynnal prosiect partneriaeth parhaus i geisio rheoli llecynnau addas o laswelltir yng nghyffiniau Cross Hands oherwydd gwerth eu bioamrywiaeth, ac mae wedi bod yn cynnal trafodaethau â'r Co-op ynghylch y posibiliadau o ran rheoli rhan o'r glaswelltir y tu allan i'r archfarchnad er budd bywyd gwyllt/cadwraeth.
Ar hyn o bryd mae'r holl laswelltir o amgylch y Co-op yn cael ei dorri'n rheolaidd yn ystod yr haf. Mae'r gofynion o ran iechyd a diogelwch yn cyfyngu ar y newidiadau y gellir eu cyflwyno ar y rhan fwyaf o'r glaswelltir o amgylch yr archfarchnad (rhaid sicrhau bod defnyddwyr y ffyrdd yn gallu gweld yr heol yn iawn, a rhaid rhoi sylw i beryglon tân yng nghyffiniau'r orsaf betrol), ac mae ystyriaethau eraill hefyd am fod yr archfarchnad yn gwerthu bwyd.Fodd bynnag, mae un llain o dir y gellid ystyried ei rheoli mewn dull amgen.
Ni chynhaliwyd arolwg cynhwysfawr o'r glaswelltir o amgylch archfarchnad y Co-op, am ei fod yn dir sydd wedi ei dorri'n rheolaidd. Rydym yn gwybod bod glaswelltiroedd eraill ym Mharc Manwerthu Cross Hands yn safleoedd da i degeirianau, a bod hyd yn oed y carwas troellog, sy'n blanhigyn prin, wedi ei ganfod yno, ond prin yw'r wybodaeth sydd gennym am y glaswelltir sydd o amgylch y Co-op heblaw bod tegeirianau yn tyfu yno.
Felly cynhelir arolwg llawn o'r glaswelltir yn ystod haf 2010 er mwyn cael llinell sylfaen ar gyfer gwerth y glaswelltir presennol i fywyd gwyllt. Mae'r Co-op wedi cytuno'n garedig i beidio â thorri'r borfa yn y man dan sylw er mwyn cynnal arolwg yno ar ddechrau'r haf flwyddyn nesaf.
Os gwelir bod amrywiaeth o rywogaethau yno eisoes a bod y rhywogaethau hynny'n rhai arwyddocaol, gallai fod yn fanteisiol i newid y drefn torri porfa, er enghraifft torri'r borfa yn llai aml yn gynnar yn yr haf, a thorri'n hwyr yn yr haf hefyd gan gludo'r borfa oddi yno ar ôl i'r gwair hadu, er mwyn cymell blodau i hadu yn hytrach na bod gwair yn mygu popeth.
Ond os gwelir taw llwm yw'r glaswelltir gellir gwella bioamrywiaeth y safle drwy hau hadau blodau gwyllt. Yn ddelfrydol byddai hyn yn cael ei wneud trwy ddod â hadau o ffynhonnell leol (efallai o lecynnau gerllaw’r Co-op lle mae amrywiaeth o rywogaethau) er mwyn cael mwy o amrywiaeth o flodau ar y safle.
Bydd arwyddion yn cael eu creu er mwyn rhoi gwybod i gwsmeriaid y Co-op beth yw'r newidiadau o ran rheoli'r glaswelltir a pham y mae hynny'n digwydd, ac er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn fwyfwy ymwybodol o bwysigrwydd y cynefin hwn.
|