Loading translations… loading
Home Newsletters February/March 2010 Beth ddigwyddodd i'r holl halen a wasgarwyd ar ein ffyrdd dros y gaeaf?

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Beth ddigwyddodd i'r holl halen a wasgarwyd ar ein ffyrdd dros y gaeaf? PDF Print E-mail

Gritting LorryYn ystod yr wythnosau diwethaf gwasgarwyd tunelli lawer o halen ar ein ffyrdd er mwyn sicrhau ein bod yn gallu teithio'n ddiogel pan oedd y tywydd yn rhewllyd, ond i ble mae'r holl halen wedi mynd?

Er bod halen yn fendith fawr inni ar y pryd, gwaetha'r modd go brin fod yr holl halen yn llesol i'n nentydd a'n hafonydd, gan taw cyrraedd y rhain a wnaeth llawer o'r halen wrth iddo gael ei olchi oddi ar ein ffyrdd i'r ffosydd a'r systemau draenio.

Dengys astudiaethau o bridd ar hyd ymylon ffyrdd uchel yn Cumbria, a fyddai'n asidaidd yn naturiol, fod halen a olchid oddi ar y ffyrdd dros gyfnod yn gallu codi lefel pH y pridd yn syfrdanol (hynny yw gwneud y pridd yn fwy alcalïaidd) ar dir yr ochr waered i'r ffyrdd hyn yn yr ucheldir.

Mae'r newid o ran pH y pridd yn effeithio ar y cylchred nitrogen yn y pridd ar yr ochr waered, ac yn peri bod deunyddiau organig yn cael eu colli. Proses allweddol ar waelod y gadwyn fwyd yw'r cylchred nitrogen sy'n sicrhau bod ecosystemau yn parhau'n iach. Ond mae newidiadau i'r cylchred nitrogen yn peri bod rhagor o nitrogen yn treiddio i'r afonydd ar yr ochr waered (sy'n niweidiol i'r dwr!) a bod deunyddiau organig yn cael eu colli o'r pridd dros gyfnod maith, gan effeithio'n sylweddol ar 'ansawdd' y pridd.

Hefyd mae ecolegwyr wedi sylwi bod planhigion sy'n ffynnu mewn cynefinoedd heli yn dechrau tyfu ar hyd ymylon ffyrdd. Mae posibilrwydd fod yr halen sy'n cael ei wasgaru ar ein ffyrdd yn creu amodau glan môr ar hyd ymylon ffyrdd ymhell o'r môr. Yn wir mae llawer o'r planhigion sy'n gallu goddef halen yn gartrefol ddigon yn y pridd mwy hallt ar hyd ymylon ffyrdd. Yn Sir Gaerfyrddin mae presenoldeb llwylys Denmarc yn tystio i hyn.