















| Gofalau am ein gwlyptiroedd |
|
|
|
|
Yn Sir Gaerfyrddin mae'r gwlyptiroedd ar ffurf afonydd, pyllau, llynnoedd, ffeniau, corsydd, corslwyni, corsydd pori arfordirol, a chorsydd pori ar orlifdiroedd. Yn wir mae gwlyptiroedd ymysg ein hadnoddau naturiol pwysicaf. Maent yn cynnal llu o rywogaethau gan gynnwys creaduriaid di-asgwrn-cefn a mamaliaid sy'n dibynnu ar y cynefinoedd hyn e.e. gweision neidr, dyfrgwn a llygod pengrwn y dwr. Yn ogystal mae gwlyptiroedd yn rhan o dirwedd iach a gweithredol gan helpu i wneud Sir Gaerfyrddin yn sir mor amrywiol ag ydyw heddiw. Ond mae gwlyptiroedd yn bwysig i bobl hefyd. Mae ein gwlyptiroedd yn ffynonellau dwr glân gan eu bod yn hidlo llygredd, ac maent yn gallu bod yn storfeydd dwr sy'n lleihau effeithiau niweidiol llifogydd. Ar ben hynny maent yn hwb i'r economi – er enghraifft mae pysgota'n ffynhonnell incwm bwysig yn y sir. Ond rydym wedi colli llawer iawn o'n gwlyptiroedd: mae ffeniau wedi eu draenio, mae corsydd pori wedi eu haredig a'u hadu, mae corslwyni wedi eu llygru, ac mae corsydd wedi eu difrodi yn sgil cywain mawn. Erbyn heddiw cydnabyddir manteision gwlyptiroedd, gan gynnwys bod yn barth gwahanu o ran y newidiadau eithafol a ragwelir yn sgil newidiadau yn yr hinsawdd. Gallai fod yn fuddiol iawn inni reoli ein gwlyptiroedd mewn modd priodol a'u hail-greu mewn mannau addas yn y sir gan adfer rhwydwaith o wlyptiroedd iach a fyddai'n gallu ymdopi'n well ag effeithiau newidiadau yn yr hinsawdd ynghyd â'n helpu ni i fyw mewn modd cynaliadwy yn y sir. Sylwch ar y cynefinoedd pwysig sydd ar hyd ein harfordir. Corslwyni - gall y rhain ddigwydd ar ffurf cynefinoedd bychan ar gyrion dyfroedd ac felly maent yn fynych yn gynefinoedd darniog. Mae sawl corslwyn bychan ar hyd yr arfordir rhwng y Bynea a Chydweli. Fodd bynnag, mae corslwyni helaethach o dipyn ym Mhwll Witchett ynghanol twyni Lacharn ac yn Ffen y Ffrwd ger Pinged. Hefyd mae corslwyni yn ein haberoedd, megis y corslwyn helaeth yn Llangennech yn aber afon Llwchwr. Mae ardaloedd arwyddocaol o gorsydd pori ar hyd Moryd Byrri a Bae Caerfyrddin ac mae corsydd pori ar orlifdiroedd yn nodwedd amlwg ym mhen isaf dyffrynnoedd ein prif afonydd, yn enwedig ar lannau afon Gwendraeth, afon Taf, ac afon Tywi. Arferai'r porfeydd hyn fod yn rhan o ardal lawer ehangach yn y sir sydd wedi dirywio erbyn hyn. Bellach mae'r corsydd pori arfordirol pwysicaf ym mhen isaf Cwm Gwendraeth ac yng nghyffiniau Pentywyn. Yma mae'r corsydd pori wedi parhau'n gymharol gyfan gan gadw eu bywyd gwyllt – mae Pentywyn yn gynefin gaeafu pwysig i gwtiaid aur. Mae'r ddwy ardal yn arwyddocaol o ran y dirwedd. Arferai Gwastatiroedd Llanelli (i'r de-ddwyrain o Lanelli) fod yn gors bori. Ond bellach mae'r rhan fwyaf o'r tir hwnnw wedi colli llawer o'i werth yn sgil datblygu trefol a diwydiannol. Fodd bynnag mae Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir ym Mhenclacwydd wedi gwneud llawer o waith yn creu cynefinoedd. Beth am ymweld â'r safle diddorol hwn i ddysgu rhagor am ein gwlyptiroedd ac i gael golwg ar yr holl fywyd gwyllt sy'n ffynnu yno. Dylem ni i gyd ystyried ein heffaith ar ein gwlyptiroedd, a hynny o'r dalgylchoedd yn y mynyddoedd a'r bryniau, lle mae ein hafonydd yn tarddu, hyd at y môr, lle mae'r gorlifdiroedd arfordirol, y corslwyni a'r ffeniau yn gymorth inni o ran lleihau llifogydd ac o ran rheoli dyfroedd - drwy warchod ein gwlyptiroedd rydym yn ein helpu ni ein hunain. |