















| Gwisgwch yn gynnes ar gyfer y gaeaf .... neu baglwch hi i'r haul |
|
|
|
|
Y gobaith yw bod y gwanwyn ar ein gwarthaf ac, ar ôl un o'r gaeafau oeraf ers blynyddoedd lawer, mae disgwyl mawr am y gwanwyn, yn enwedig ymhlith ein bywyd gwyllt. Felly beth yw'r strategaethau sydd gan fywyd gwyllt i oroesi'r gaeaf? Mae gan anifeiliaid sawl ffordd o ymdopi â'r gaeaf - mae diwrnodau byrion a nosweithiau maith ynghyd ag oerfel a thywydd stormus oll yn sialensiau y mae'n rhaid i anifeiliaid eu goresgyn os ydynt am oroesi. Yn achos yr anifeiliaid hynny'n sy'n effro drwy'r tymor, mae'n rhaid bwyta rhagor o fwyd dim ond i gynnal tymheredd y corff - a hynny ar yr union adeg y mae bwyd ar ei brinnaf! Efallai taw dyna'r rheswm pam y mae gan adar yn y trofannau oes lawer hirach ar gyfartaledd nag adar cyfatebol sy'n byw i'r gogledd neu i'r de o'r trofannau. Strategaeth gyfarwydd yw mudo er mwyn dianc rhag oerfel y gaeaf. Ond nid yw pob aderyn mudol yn hedfan yr holl ffordd i bendraw'r byd fel y gwna'r gwenoliaid sy'n hedfan i dde Affrica - mae llawer o rywogaethau yn gaeafu'n agosach o lawer yn Sbaen neu yng ngogledd Affrica. Ond mae hyd yn oed taith fudo fach yn gallu gwneud gwahaniaeth – mae adar sy'n magu yn yr ucheldir megis cwtiaid aur a gylfinirod, yn mudo i'r glannau lle mae mwy o fwyd ar gael, gan ddod at ei gilydd yn heidiau anferth. Mae rhai rhywogaethau o bysgod yn symud o'r dyfroedd bas i waelod afonydd pan fydd y tywydd ar ei oeraf. Os nad oes modd cilio rhag y gaeaf drwy fudo i'r de i wledydd cynhesach, mae'n syniad da i fod mewn cas cadw da cyn i'r gaeaf gychwyn - sy'n golygu bwyta'n dda i fagu bloneg yn yr haf a'r hydref. Strategaeth rhai anifeiliaid yw storio bwyd ar gyfer y gaeaf - mae sgrechod y coed a gwiwerod yn cwato cnau er mwyn bod ganddynt ffynhonnell fwyd hwylus wrth law pan fo'r tywydd ar ei waethaf. Hefyd mae tyfu plu neu flew tewach yn gymorth i rai rhywogaethau wrthsefyll yr oerfel, felly mae'r hydref yn adeg i fwrw plu neu flew a thyfu cot dewach ar gyfer y gaeaf. Strategaeth amlwg arall yw gaeafgysgu - sef cysgu tan y gwanwyn. Ym Mhrydain dim ond ystlumod, pathewod a draenogod sy'n gaeafgysgu'n go iawn, gan fod mamaliaid bychain eraill megis llygod yn gallu bod yn weithgar ar hyd yn oed y diwrnodau oeraf. Yn achos draenogod mae tymheredd y corff yn gostwng o 35°C i dymheredd eu gwâl, ac mae curiad y galon yn gostwng o 147 curiad y funud i ddim ond 2 - 12 curiad y funud! Ond mae hyd yn oed anifeiliaid sy'n gaeafgysgu yn gallu dihuno os yw'n cynhesu yn ystod y gaeaf. Mae anifeiliaid eraill yn mynd yn gysglyd ac yn ddisymud yn ystod y gaeaf. Arfer ymlusgiaid, amffibiaid (hynny yw anifeiliaid â gwaed oer) a chreaduriaid di-asgwrn-cefn megis rhai gloÿnnod, malwod a gwlithod yw mynd yn gysglyd ac yn ddisymud pan fo'r tymheredd yn gostwng, ond maent yn gallu dihuno os ceir cyfnodau cynhesach yn ystod y gaeaf. Mae rhai anifeiliaid sy'n anghymdeithasol weddill y flwyddyn yn dod at ei gilydd yn ystod y gaeaf – yn wir mae niferoedd mawr iawn o ddrywod yn gallu dod at ei gilydd er mwyn cwtsho'n gynnes. Yn olaf mae rhai rhywogaethau megis moch daear yn mynd yn swrth ac yn cysgu cymaint â phosibl mewn rhyw fath o 'syrthni gaeaf' (rhywbeth y mae rhai pobl yn ei wneud weithiau yn ôl pob golwg!). Mae rhywogaethau eraill (megis llygod a llygod pengrwn) yn ychwanegu at drwch eu nythod neu walau er mwyn cael inswleiddiad ychwanegol, ac yn dal ati i chwilio am fwyd drwy'r gaeaf, gan gwympo i gysgu am ychydig ddyddiau ar y tro yn unig pan fo'r gaeaf ar ei waethaf. Felly mae sawl ffordd o ymdopi ag oerfel a thywyllwch y gaeaf, gan ddibynnu ar eich maint, pa un a oes gennych waed cynnes neu waed oer, pa un a ydych yn gallu gadael y gwledydd hyn ai peidio, a pha un a ydych yn gallu gaeafgysgu ai peidio. Ond mae un peth yn sicr - bydd y gwanwyn yn dihuno pawb a phopeth. |