















| Gwybodaeth am fodrwyo môr-hwyaid du yn sgil trychineb y "Sea Empress" - beth ydym wedi ei ddysgu hyd yn hyn? |
|
|
|
|
Bob Haycock
Yn 1996 nid oedd gennym braidd dim gwybodaeth ynghylch o ble y deuai'r môr-hwyaid du oedd yn gaeafu yn y Bae. Trwy fodrwyo'r adar ar ôl eu glanhau (ac yna eu rhyddhau o'r canolfannau achub mewn dyfroedd glân mewn mannau eraill oddi ar arfordir Cymru a de Lloegr) y gobaith oedd y byddai rhywbeth cadarnhaol yn deillio o'r trychineb hwn. Felly beth ydym wedi ei ddysgu hyd yn hyn? Daethpwyd o hyd i ryw 70 o fôr-hwyaid du fawr o dro ar ôl iddynt gael eu rhyddhau a hynny ar hyd arfordir de-orllewin Cymru a de Lloegr. Ond bu un aderyn mor anffodus â chael ei ddal mewn olew unwaith eto ar ôl i olew ollwng o'r "Tricolor" oddi ar arfordir yr Iseldiroedd ym mis Ionawr 2003, a hynny ar ôl goroesi am 7 mlynedd ar ôl cael ei ryddhau (roedd yr aderyn hwn ymhlith 60 o fôr-hwyaid du y daethpwyd o hyd iddynt yn yr olew). Mae'n ddiddorol nodi bellach, a hynny bron 14 o flynyddoedd ar ôl y trychineb, fod tri o'r adar a fodrwywyd yn sgil trychineb y "Sea Empress" wedi eu canfod yn Rwsia (un i'r gorllewin o Fynyddoedd Ural a dau ymhellach i'r dwyrain yn nhalaith Yamalo-nenets). Daethpwyd o hyd i'r aderyn diweddaraf o'r rhain wedi ei saethu ym mis Mehefin 2009, a hynny dair blynedd ar ddeg ar ôl cael ei lanhau a'i ryddhau. Felly roedd yr holl ymdrechion gan y gwirfoddolwyr yn Aberdaugleddau ac mewn mannau eraill yn ne-orllewin Cymru i geisio helpu'r adar hyn i wella ar ôl cael eu dal gan olew, yn fuddiol dros ben. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan ganlynol: www.btoringing.blogspot.com |