















| Rhagor o waith ymchwil ynghylch sefyllfa druenus gwenyn |
|
|
|
|
Gwelwyd bod gan wenyn oedd wedi bwyta paill o amrywiaeth o blanhigion system imiwnedd iachach na gwenyn oedd wedi bwyta paill o un math o blanhigyn yn unig. Roedd gan y gwenyn hynny a gafodd gymysgedd o bum paill gwahanol lefel uwch o glwcos ocsidas o'u cymharu â gwenyn oedd wedi cael paill o un math o flodyn yn unig, hyd yn oed os oedd gan y math hwnnw o flodyn lefel uwch o brotein. Mae gwenyn yn gwneud glwcos ocsidas i ddiogelu mêl a bwyd i'r larfâu rhag cael eu llygru gan ficrobau - sy'n diogelu'r cwch gwenyn rhag afiechydon. Roedd gwaith ymchwil blaenorol wedi dangos bod amrywiaeth gwenyn a thrychfilod eraill yn gwanhau yn unol ag amrywiaeth y planhigion roeddynt yn bwydo arnynt ac yn eu peillio. Felly mae'r arfer o dyfu un cnwd dros ardaloedd enfawr wedi peri bod newid mawr o ran amrywiaeth y rhywogaethau y gall pryfed chwilio am baill ynddynt, Hefyd mae gwaith ymchwil arall yn awgrymu bod niferoedd gwenyn yn lleihau gymaint ddwywaith yn gynt ym Mhrydain nag yng ngweddill Ewrop. Amcangyfrifir bod gwerth masnachol peillio gan wenyn yn rhyw £200 miliwn y flwyddyn ym Mhrydain, ac felly gallai fod goblygiadau difrifol i'r dirywiad hwn. Mae mwyfwy o wasgfa ar Brydain i gynhyrchu ei bwyd ei hunan - ond mae'n rhaid i lawer o ffrwythau a llysiau gael eu peillio gan wenyn ac ati cyn gallu dwyn ffrwyth. Mae llywodraeth Ffrainc newydd gyhoeddi prosiect i sicrhau bod blodau sy'n cynnwys llawer o neithdar yn cael eu hau ar hyd ymylon ffyrdd er mwyn ceisio rhoi hwb i niferoedd gwenyn. Mae arbenigwyr wedi bod yn ymchwilio i'r dirywiad hwn, gan roi sylw i bob math o bethau - gan gynnwys newidiadau yn yr hinsawdd, plaladdwyr, gwiddon varroa, a'r cyflwr CCD lle mae cychod cyfan yn marw'n hollol ddisymwth gyda'i gilydd. Y gobaith yw y bydd y gwaith ymchwil newydd hwn yn ychwanegu darn defnyddiol arall at y jig-so ac yn ein helpu i atal y dirywiad hwn. |