|
Mae eleni wedi ei dynodi'n Flwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth. Nod y flwyddyn yw dyfnhau ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwarchod bioamrywiaeth er lles pobl a chynyddu dealltwriaeth o werth economaidd bioamrywiaeth. Yr amcanion yw:
- sicrhau bod gan y cyhoedd well gwybodaeth am y bygythiadau i fioamrywiaeth a'u bod yn deall sut y gellir gwarchod bioamrywiaeth,
- sicrhau bod mwyfwy o bobl yn ymwybodol o faterion bioamrywiaeth,
- dathlu'r hyn a gyflawnwyd gan lywodraethau a chan bartneriaid Countdown 2010,
- cyflwyno adroddiad ynghylch yr achosion hynny lle na lwyddwyd i gyrraedd y nod o ran atal colli bioamrywiaeth erbyn 2010,
- manteisio ar y momentwm er mwyn sbarduno hyd yn oed ragor o weithredu er budd bioamrywiaeth,
- dechrau cyflwyno'r targed(au) ar gyfer y cyfnod ar ôl 2010.
Yma yn Sir Gaerfyrddin rydym yn llwyddo eisoes i roi sylw i'r cysylltiadau rhwng bioamrywiaeth a meysydd eraill megis iechyd a'r economi. Mae pwysleisio pwysigrwydd bioamrywiaeth i fywydau pawb ohonom yn amlygu unwaith eto pam y mae'n rhaid inni ymdrechu i warchod a chyfoethogi ein bioamrywiaeth a bod yn ymwybodol o'r modd y mae ein holl weithredoedd yn gallu effeithio ar fioamrywiaeth. Rydym yn ceisio hyrwyddo bod bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin yn hybu'r canlynol:
 Economi Lewyrchus
Mae amgylchedd naturiol Sir Gaerfyrddin yn sylfaen i'r economi leol, a gall bywyd gwyllt roi bod i fanteision sylweddol o ran hybu ffyniant cymunedau lleol e.e. ffermio, twristiaeth, pysgota, coedwigaeth.
System Iechyd Naturiol!
Mae natur yn llesol ichi: boed eich bryd ar gerdded, beicio neu arddio, mae ‘awyr agored Sir Gaerfyrddin’ yn llesol i iechyd ac yn ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau a hwyl.
Cymunedau Iach, Gofalgar a Diogel
Mae llecynnau glas mewn cymunedau yn creu 'ymdeimlad o le', yn gwneud cymunedau yn fwy atyniadol, ac yn gallu helpu i greu lle mwy diogel i fyw ynddo.
Cymunedau Creadigol
Mae amgylchedd naturiol Sir Gaerfyrddin yn 'ystafell ddosbarth awyr agored’ sy'n rhoi profiad dysgu gydol oes i bawb, gan helpu i greu dyfodol cynaliadwy ac i roi ysbrydoliaeth artistig.

Ein Bwyd a'n Diogelwch
Morfeydd heli yw ein hamddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd, ac mae ein corslwyni a'n glaswelltiroedd llaith yn sugno dwr, mae perthi yn creu rhwystrau naturiol ac yn rhoi cysgod rhag y gwynt, a gwenyn sy'n peillio ein cnydau.
Ble y byddem ni heb fioamrywiaeth? |