















| Aderyn y Bwn yn Llanelli! |
|
|
|
|
Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd pobl yn ystyried bod cig Adar y Bwn yn ddanteithfwyd. Roedd Adar y Bwn yn llawer mwy cyffredin bryd hynny, ond oherwydd yr holl hela, oherwydd bod casglwyr yn dwyn eu hwyau ac oherwydd draenio corstiroedd, bu dirywiad enbyd yn eu niferoedd. Yn wir am blwc ni fuont yn magu ym Mhrydain ond wrth i ambell aderyn strae groesi o'r cyfandir mae poblogaeth fechan o Adar y Bwn yn magu ym Mhrydain bellach. Gan eu bod yn byw mewn corslwyni yn unig a chan fod y niferoedd yn fach iawn, mae Adar y Bwn ar y Rhestr Goch - ac ymhlith adar prinnaf Prydain. Fel rheol mae'n anodd gweld Adar y Bwn gan eu bod yn arfer symud yn ddistaw trwy'r cyrs yn chwilio am bysgod. Yn fynych nid oes neb yn gwybod eu bod yno hyd nes y clywir y ceiliogod yn galw fel corn niwl yn y gwanwyn, gyda'r swn yn diasbedain am bellteroedd. Felly cofiwch gadw eich llygaid yn agored yn ystod y tywydd oer hwn - efallai y gwelwch rywbeth cwbl annisgwyl! |