Loading translations… loading
Home Newsletters January 2010 Chwilio am y Bele yn Sir Gaerfyrddin

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Chwilio am y Bele yn Sir Gaerfyrddin PDF Print E-mail

Pine Martin © Bill CuthbertNeil Jordan, Rheolwr y Prosiect Belaod, Ymddiriedolaeth Natur Vincent

Ar goll yn y gofod

Wrth i'r Weinyddiaeth Amddiffyn gyhoeddi yn ddiweddar ei bod yn cau ei huned 'Pethau Hedegog Anhysbys' (UFOs'), yr oedd sefydliad arall yn bwrw ati'n fwy egniol byth i chwilio am greaduriaid sydd bron â bod yr un mor ddirgel, a hynny ledled Cymru a Lloegr. Ers mwy na phymtheng mlynedd mae Ymddiriedolaeth Natur Vincent wedi bod yn crynhoi tystiolaeth o bresenoldeb anifail cynhenid prin iawn, sef y bele (Martes martes).

Er bod y sylwadau uchod am 'Bethau Hedegog Anhysbys' yn rhai tafod mewn boch, efallai eu bod yn fwy perthnasol ar ôl rhoi ystyriaeth fanylach i'r mater gan fod profi bod belaod yn dal i fodoli yng Nghymru yn dasg yr un mor anodd â chwilio am ddynion bach o'r gofod. Prinhaodd belaod hyd at ddifancoll bron yn sgil colli cynefin, sef coetiroedd, ac yn sgil erledigaeth, a bellach dyma'r mamal ysglyfaethus prinnaf yng Nghymru a Lloegr. Yn wir erbyn 1915 dim ond troedle bychan mewn dyrnaid o ardaloedd diarffordd oedd gan y bele, a dadleuai rhai fod y creadur wedi darfod yn llwyr o dir Cymru. Ond mae rhesymau eraill hefyd pam y mae'n anodd dros ben i naturiaethwyr ganfod belaod. Er enghraifft, anifeiliaid y nos yw belaod, a'u hoff gynefin yw coetiroedd trwchus lle mae'n anodd eu gweld. Hefyd dengys gwaith ymchwil fod tiriogaeth bele yn gallu ymestyn dros 82 cilometr2. Dyma greadur sydd wir 'ar goll yn y gofod', ond serch hynny mae gennym rywfaint o dystiolaeth fod posibilrwydd fod ychydig felaod yn dal i fodoli yn Sir Gaerfyrddin.

Pine Martin © Colin Smith

‘Mae gweld yn gyfystyr â chredu' - onid yw?

Mae cael gwybodaeth gan y cyhoedd am beth maent wedi ei weld yn ffynhonnell gwbl hanfodol inni. Rydym wedi casglu a chloriannu pytiau o wybodaeth o'r fath dros y 15 mlynedd diwethaf, ac mae'r map isod yn dangos y mannau hynny lle'r ydym bron yn sicr taw belaod y mae pobl wedi eu gweld. Yn wir, mae amlder y dystiolaeth yn Sir Gaerfyrddin yn golygu bod y sir yn un o'r ardaloedd pwysicaf yn ne Prydain i'r rhywogaeth hon, ac mae cael   tystiolaeth am fwy nag un bele gyda'i gilydd hyd yn oed yn fwy syfrdanol gan y gallai olygu bod belaod yn magu yn y sir. Gwelwyd tri bele yng Ngelli-aur ym mis Awst 1998, dau yn y coed mewn coedwig i'r gogledd o Gydweli ym mis Mehefin 1999, a dau yn Fforest Brechfa  ym mis Mai 2000. Ond a yw gweld yn gyfystyr â chredu?

Er bod gweld bele yn dystiolaeth holl bwysig o bresenoldeb parhaus y rhywogaeth yn Sir Gaerfyrddin, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn casglu tystiolaeth DNA hefyd. Mae gwybodaeth enynnol o'r fath nid yn unig yn cadarnhau'r hyn a welwyd, mae'n allweddol hefyd o ran gwneud penderfyniadau ynghylch camau gwarchod yn awr ac yn y dyfodol. Er enghraifft, mae'r 'DNA hynafol' a gasglwyd o gyrff belaod yng nghasgliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac a ddadansoddwyd yn Sefydliad Technoleg Waterford, yn dangos bod belaod Cymru yn wahanol i'r rhai yn yr Alban ac yn Iwerddon. Ond nid oes neb yn gwybod hyd yn hyn a yw'r nodweddion 'unigryw' yn dal i fod yn y boblogaeth bresennol, ac er mwyn cael yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, mae'n rhaid inni gael cysylltiad â belaod gwyllt. Ac felly mae angen eich cymorth chi arnom i allu gwneud hynny.

Canfod – casglu – diogelu

Y mannau lle mae'n debygol y gwelwyd belaod yn Sir Gaerfyrddin (1996–2007).Mae Ymddiriedolaeth Natur Vincent yn cynnal gweithdy yng nghanolbarth Cymru ar 20fed Chwefror 2010. Nod y gweithdy hwn yw arfogi naturiaethwyr a grwpiau natur lleol â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gynnal arolygon o belaod yn eu hardal, gan ein galluogi felly i chwilio dros ardal ehangach am y mamal dirgel hwn y mae hi mor anodd dod o hyd iddo. Mae modd codi darnau bychain o DNA o dail ac o flewiach a ddaliwyd mewn tiwbiau y gosodwyd abwyd ynddynt, a bydd y gweithdy yn rhoi hyfforddiant ynghylch defnyddio'r technegau hyn, ac ynghylch sut mae defnyddio'r blychau gwâl sydd gan Ymddiriedolaeth Natur Vincent. I archebu lle anfonwch neges e-bost at This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it neu ffoniwch 01531 636441. Byddem wrth ein boddau pe gallech ymuno â ni ar ein helfa!

I gael rhagor o wybodaeth am felaod, i dderbyn ein llythyron newyddion, neu i roi gwybod inni os gwelsoch fele, ewch i www.pinemarten.info.