















| Gwylio Adar y Gerddi 30-31 Ionawr 2010 |
|
|
|
|
Ers 30 o flynyddoedd, mae'r Gymdeithas er Gwarchod Adar (RSPB) wedi bod yn gofyn i bobl gyfrif yr adar sy'n eu gerddi. Yn ystod y cyfnod hwn mae'r cyhoedd wedi treulio mwy na 3 miliwn o oriau (dyna fwy na 380 o flynyddoedd!) yn gwylio ac yn mwynhau'r adar sy'n ymweld â'n gerddi, gan lwyddo i gofnodi rhyw 6 miliwn o adar bob blwyddyn.
Rydym wedi colli mwy na hanner adar y to a thri chwarter ein drudwy, ac yn ddiamheuaeth mae canlyniadau'r arolygon wedi helpu i amlygu'r colledion syfrdanol hyn. Felly mae'r arolygon hyn yn ein helpu i sylwi ar broblemau ond hefyd, ac yn bwysicach byth, maent yn ein galluogi i gymryd y camau cyntaf o ran ceisio helpu rhywogaeth i adennill tir. Ond mae'n rhaid cofio bod Gwylio Adar y Gerddi yn hwyl, yn rhwydd ac yn cymryd dim ond awr o'ch amser. Cynhelir yr arolwg ym mis Ionawr am fod y tywydd yn oer, sy'n golygu bod adar yn fwy tebygol o ddod i'r gerddi i chwilio am fwyd a chysgod. Dim ond am awr rydych yn gorfod cyfrif, a gallwch wneud hynny ar unrhyw adeg o'r dydd, ond byddwch yn gweld mwy o adar os codwch yn fore! Nid yw'r adeg o’r dydd yn effeithio ar y canlyniadau cyffredinol am fod y gwahaniaethau o ran niferoedd adar yn cael eu cysoni gan fod cynifer o erddi dan sylw yn yr arolwg.
Yr wyth aderyn mwyaf niferus yn Sir Gaerfyrddin yn ôl arolwg y llynedd oedd:
Yr adar mwyaf niferus yn gyffredinol yn ôl arolwg y llynedd oedd:
Mae rhagor o wybodaeth am yr arolwg ar gael ar y wefan ganlynol: www.rspb.org.uk/birdwatch/lookfor/ |