Loading translations… loading
Home Newsletters January 2010 Helfa Ffyngau, 31 Hydref 2009, Parc Dinefwr, Llandeilo

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Helfa Ffyngau, 31 Hydref 2009, Parc Dinefwr, Llandeilo PDF Print E-mail

Grassland FungiPhilip Jones, Cofnodydd Ffyngau Sir Gaerfyrddin

Ar ddiwrnod braf yn yr hydref daeth aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, a Naturiaethwyr Llanelli ynghyd i gymryd rhan mewn helfa ffyngau ym Mharc Dinefwr, Llandeilo, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yr oedd y daith gerdded hon yn agored i'r cyhoedd hefyd a chafwyd ymateb rhagorol gan olygu bod digonedd o bobl yn bresennol i chwilio am yr amrywiaeth o ffyngau sydd yn y parc.

Roedd tymor ffyngau 2009 yn nodedig am fod nifer bychan o rywogaethau mycorhisol (ffyngau gwraidd) wedi dwyn ffrwyth, ac roedd hynny'n amlwg yn Ninefwr. Daethpwyd o hyd i amrywiaeth o ffyngau coed yn y coetir, ond ni welwyd dim bwyd y boda mawr lliwgar.

Roedd y lawnt o flaen y plasty yn frith o gapiau cwyr glaswelltir a ffyngau cyffredin eraill sy'n tyfu mewn porfa. Cofnodwyd wyth o rywogaethau gan gynnwys y Cap Cwyr Seithliw a'r Cap Cwyr Gwyn, ynghyd â Ripartites tricholoma a Rickenella swartzii.

Yn y borfa y tu hwnt i'r 'lawnt' daethpwyd o hyd i ffyngau eraill megis Arrhenia acerosa, sy'n rhywogaeth anghyffredin ac anamlwg, gan ei bod ar ffurf gwyntyll sy'n tyfu'n agos i wyneb y pridd mewn glaswelltir.

Mae nifer o goed deri a chastanwydd pêr ysblennydd ynghyd â ffawydd yng nghoetir gwych Parc Dinefwr. Y polisi yno yw gadael i goed a changhennau sy'n cwympo, ni waeth beth fo'u maint, bydru yn y man lle cwympant. Mae nifer o rywogaethau saprotroffig [ffyngau sy'n cael maetholion o ddeunydd organig marw] a rhywogaethau parasitig [ffyngau sy'n cael maetholion o organeb fyw arall] yn manteisio ar y swbstradau hyn.

Ar ddechrau'r daith gwelwyd dau glwmp mawr o ffwng ar hen foncyffion ar gwr y lawnt. Er bod y ddau glwmp wedi dirywio roedd modd eu hadnabod fel Ffwng Mêl a Thwffyn Brwmstan, sef rhai o'r ffyngau mwyaf cyffredin ac eang eu dosbarthiad ym Mhrydain.

Un peth annisgwyl oedd dod o hyd i Wystrysen y Coed ar arwydd pren o flaen y ty - ond mae ffwng yn tyfu unrhyw le y mae ffynhonnell fwyd a lleithder parhaus ar gael.

Ynghanol y coetir gwelwyd Tafod Bustach, Grifola frondosa, Ganoderma australe, Trametes versicolor, Pluteus cervinus a Trametes gibbosa - yn wir pwy na fyddai'n cael ei ysbrydoli gan enwau gwefreiddiol o'r fath i ddysgu rhagor am y rhywogaethau diddorol hyn!

Hefyd daethpwyd o hyd i Gyrn Melyn. Dyma rywogaeth gyffredin dros ben sy'n pydru pren, ac mae'n tyfu ar hen fonion ac ar ganghennau sydd wedi cwympo oddi ar goed. Ffwng a bacteria yw ailgylchwyr pennaf byd natur, gan ddychwelyd deunyddiau marw i'r pridd fel y gellir eu hailddefnyddio. Heb ffwng byddai llawer llai o ailgylchu'n digwydd. Yn wir byddem ar goll o dan bentyrrau sawl metr o drwch o gyrff anifeiliaid marw ac o blanhigion wedi gwywo.

Gwelwyd rhai ffyngau’r gawod yn y parcdir, a hynny'n bennaf ar redyn. Parasitiaid yw llawer o'r ffyngau hyn, ac mae ganddynt ddau neu fwy o gynhalwyr, a hyd at bump o gyfnodau sborau. Y gwynt sy'n gwasgaru'r sborau hyn, gan wneud hynny dros ardal eang iawn. At ei gilydd maent yn effeithio ar ddail. Mae gan rai rhywogaethau gyfnod sborau coch, sy'n edrych yn debyg i rwd.

Roedd un o'r rhywogaethau hyn sef Milesina dieteliana yn bresennol ar Lawredyn Cyffredin, ac roedd M. kriegeriana yn bresennol ar Farchredyn Cyffredin ac ar Farchredyn Llydan. Mae'r ffyngau hyn yn gyffredin iawn yn Sir Gaerfyrddin ond y tuedd yng ngweddill Cymru yw peidio â'u cofnodi'n fanwl. Roedd Milesina blechni yn bresennol ar Wibredyn; roedd hyn yn ddiddorol gan nad yw mor gyffredin â'r mathau eraill o'r ffwng hwn.

Roedd Phragmidium violaceum yn effeithio ar y mieri ar gyrion y coetir. Dyma un o ffyngau'r gawod mwyaf cyffredin yng Nghymru sy'n peri bod lliw fioled nodweddiadol ar ochr uchaf dail mieri lle mae'r heintiad yn digwydd.

Cofnodwyd yr holl rywogaethau hyn mewn cwta brynhawn a hynny mewn amrywiaeth o gynefinoedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am yr agwedd hon ar fyd natur ar dudalennau'r rhwydwaith cofnodi ffyngau ar y wefan ganlynol: www.carmarthenshirebiodiversity.gov.uk