















| Cynllun y Big Pond Dip 2009 |
|
|
|
|
Cymrwch ofal o gwmpas y pwll a pheidiwch â gwneud yr arolwg eich hun. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw hidlydd cyffredin o’r gegin a hambwrdd gwyn. Lawrlwythwch ffurflen y Big Pond Dip o’r wefan ganlynol: www.pondconservation.or.uk/bigponddip ac ewch â hi gyda chi i’ch atgoffa beth i’w gofnodi. Ewch ati i rwydo – edrychwch pa greaduriaid sydd gennych a chofnodwch wybodaeth syml am eich pwll. Gwnewch yn siwr eich bod yn golchi’ch dwylo ar ôl rhwydo’r pwll a chofiwch nodi’r canlyniadau ar y wefan. |