|
Grant CCGC yn ariannu mwy o brosiectau bioamrywiaeth yn y sir |
|
|
|
|
Cytunwyd ar grant blynyddol y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar gyfer 2009-2010. Yn ogystal â pharhau i roi cymorth ar gyfer prosiectau blynyddol rhoddwyd arian hefyd i brosiectau newydd i helpu rhywogaethau a chynefinoedd sy’n rhan o’r cynllun gweithredu bioamrywiaeth. Yn gryno, y prosiectau hynny yw:
- Grwp Golfan y Mynydd Sir Gaerfyrddin sy’n helpu i roi arian i fwydo’r adar hyn. Tybir fod 70-80% o boblogaeth Cymru yn Nyffryn Tywi ac mae’n nhw’n dibynnu ar fedru cael bwyd i fyw. Bydd gwirfoddolwyr lleol hefyd yn helpu i fwydo’r adar hyn a bydd y grant hwn yn rhoi cymorth hollbwysig i’r adar.
- Caiff Grwp Ffyngau Sir Gaerfyrddin ei ffurfio a’i leoli yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i helpu i gofnodi’r ffyngau yn y sir ac i hyfforddi gwirfoddolwyr a allai fod â diddordeb mewn dod i wybod mwy am adnabod ffyngau a pha mor bwysig ydyn nhw i gynnal ecosystemau iach.
- Prosiect pathewod o dan arweiniad Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn eu gwarchodfa natur yn Rhos Cefn Bryn. Mae’r ardal o gwmpas y warchodfa yn bwysig i bathewod yn y sir a bydd gwella’r coridorau o berthi rhwng rhannau allweddol o goetiroedd yn helpu’r mamal prin hwn barhau a lledaenu.
- Caiff ffensys trydan eu codi i ddiogelu nythod a chywion y Cwtiad Torchog Lleiaf, sy’n nythu ar hyd glannau’r Tywi. Mae hwn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn un o’r pwysicaf yn Ewrop ar gyfer yr adar hyn sy’n nythu ar y traethau graean ar hyd yr afon. Mae gwartheg yn broblem fawr gan eu bod nhw’n cerdded ar y traeth ac yn chwalu’r nythod. Gallai ffensys trydan o gwmpas y nythod eu helpu nhw fagu cywion yn llwyddiannus.
- Bwriedir cynhyrchu cardiau post ar gyfer draenogod i geisio cofnodi nifer y mamal adnabyddus hwn sy’n dirywio. Bydd hyn yn gydnaws â’r arolwg cenedlaethol y bydd y Gymdeithas Mamaliaid yn ei drefnu y flwyddyn nesaf.
- Caiff taflen ei pharatoi am y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol a dau banel fydd yn cynnwys ffeithiau rhyfeddol am fioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin a pham fod bioamrywiaeth yn bwysig i ni ym mhob agwedd o’n bywydau.
- Caiff cymorth grant ei ddefnyddio i barhau i reoli cynefinoedd yn ein safle diogelu llygod y dwr ym Morfa Berwig.
- Diwrnod rhostiroedd ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain – gyda chymorth y parcmyn yn y Parc Gwledig byddwn yn trefnu diwrnod i hybu cynefinoedd a rhywogaethau’r rhostiroedd a byddwn yn dysgu sut mae’r rhostiroedd yn cael ei adfer yno. Byddwn hefyd yn gweithio gydag arbenigwr addysg amgylcheddol a rhai pobl ifanc ar weithdy iddyn nhw yn seiliedig ar themâu ar gyfer y cynefin hwn.
- Byddwn hefyd yn parhau i roi grant blynyddol i arolwg y frithribin frown i helpu i reoli’i chynefin yn y sir gyda Gwarchod Glöynnod Byw a hefyd seminar flynyddol y Chweched Dosbarth ar Fioamrywiaeth mewn partneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.
|