Loading translations… loading
Home Newsletters July 2009 Prosiect Rhandiroedd Llanelli

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Prosiect Rhandiroedd Llanelli PDF Print E-mail

An AllotmentGyda’r sylw cynyddol sy’n cael ei roi yn y cyfryngau, y cynnydd yng nghost bwyd ffres, yr awydd i wybod beth sydd yn ein bwyd, a’r ymgyrch i fyw’n iachach, mae mwy a mwy yn ymddiddori mewn garddio ar randiroedd.  Yn anffodus mae nifer y rhandiroedd sydd ar gael wedi aros yr un fath neu wedi lleihau.

O edrych ar y cyfartaleddau cenedlaethol, mae’n amlwg fod llai o randiroedd yn Llanelli nag a ddylai fod, ac mae’r rhestrau aros sydd gan ddarparwyr rhandiroedd yn ategu hyn.   Felly, mae Partneriaeth Rhwydwaith Gwyrdd Llanelli, a gefnogir gan Foothold Regeneration, wedi penderfynu ystyried dulliau o ddarparu mwy o randiroedd yn Llanelli

Mae grwp strategol wedi dod at ei gilydd, sy’n cynnwys yr awdurdodau fydd yn rheoli ac yn cynnal a chadw’r safleoedd newydd.  Clustnodwyd pedwar safle newydd, gan gynnwys tri safle cymunedol llai ac un safle strategol mawr.  Mae pob un o’r safleoedd hyn ar dir nad oes iddo fawr ddim gwerth amgylcheddol, gan ei fod yn borfa arw nad yw’n cael ei drin ac sy’n denu tipwyr anghyfreithlon yn rheolaidd.  Cafwyd cyllid i gomisiynu ychydig o waith ymchwil ar y safle i weld pa mor addas yw’r tir.  Roedd Llanelli yn ardal ddiwydiannol enfawr ar un adeg ac rydyn ni am fod yn siwr nad yw’r tir wedi’i lygru neu nad yw’n gynefin arbenigol ar gyfer rhywogaethau prin.  Bydd y gwaith hwn yn dechrau cyn bo hir.

Bydd y Rhwydwaith Gwyrdd yn gwneud cais am grant i gael cyllid cyfalaf i greu’r rhandiroedd gorau posibl.  Bydd yno gyflenwad dwr, siediau a llwybrau a ffensys diogelwch ac mae’r Bartneriaeth yn gobeithio y bydd rhai o’r rhandiroedd yn barod erbyn y tymor tyfu yn 2010.

Mae rhandiroedd yn lle gwych i fywyd gwyllt.  Mae amrywiaeth dda o gynefinoedd yno fel lleiniau sydd wedi’u trin yn ogystal â rhai gwag, planhigion sy’n cynhyrchu neithdar, tomenni compost, porfa, siediau a storfeydd a llwyni a chloddiau terfyn ac mae’n nhw’n denu adar, pryfed a chreaduriaid bach.  Gallan nhw fod yn help mawr i hybu bioamrywiaeth.

Mae llawer o bryfed, corynnod a chreaduriaid di-asgwrn-cefn yn ffynnu mewn mannau sy’n tyfu’n wyllt, ac am fod y math yma o gynefin wedi diflannu o dir fferm i bob pwrpas, gall y corneli bach hyn yn y trefi fod yn ferw o fywyd gwyllt.  Ddylai rhandiroedd ddim bod yn rhy daclus!

Drwy reoli rhandiroedd mewn modd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd gallwch helpu i greu amgylchedd da ar gyfer sawl math ar greaduriaid buddiol, sydd, yn eu tro, yn gallu helpu’r garddwr mewn sawl ffordd:

  • Wrth chwilio am neithdar mae pryfed yn peillio’r blodau sy’n tyfu ar blanhigion ffrwythau a llysiau.
  • Gall adar, pryfed a chreaduriaid eraill fwyta pethau sy’n bla yn yr ardd fel llyslau, pryfed blodiog a phryfed gwynion.
  • Mae mwydod yn helpu i gynnal ansawdd y pridd.

Mae’r Rhwydwaith Gwyrdd yn parhau i gael ymholiadau gan gymunedau sy’n awyddus i greu rhandiroedd a bydd Rheolwr y Prosiect Rhwydwaith Gwyrdd yn parhau i weithio gyda’r grwpiau hyn i’w helpu i gyrraedd y nod.  Os hoffech ragor o wybodaeth ffoniwch Richard Davie yn Foothold Regeneration ar 01554 779910.