















| Prosiect Tiroedd Comin Sir Gaerfyrddin |
|
|
|
|
Mewn achosion lle nad oes modd olrhain perchenogion tir comin, mae gan yr awdurdod cofrestru lleol bwer i rwystro gweithgaredd anghyfreithlon (ee adeiladu, ffensio etc). Ond nid yw’r ddeddfwriaeth fel y mae ar hyn o bryd yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol i reoli’r tir er gwell ac felly mae nifer o diroedd comin di-berchennog yn Sir Gaerfyrddin wedi dioddef am nad ydyn nhw’n cael eu rheoli’n iawn. Mae prosiect tiroedd comin Sir Gaerfyrddin yn gobeithio newid hynny!.
Ar hyn o bryd mae’r awdurdod yn gwneud arolwg o’r holl diroedd comin di-berchennog yn Sir Gaerfyrddin. Nod y prosiect yw enwi’r tiroedd comin hynny fyddai’n cael y budd mwyaf o gael eu rheoli’n dda ac yna mynd ati i sicrhau fod y gwaith rheoli’n cael ei wneud.
Man cychwyn y prosiect yw comin Mynydd Crugmelyn sy’n un o ddyrnaid o fawnogydd yn Sir Gaerfyrddin. Er bod y llystyfiant wedi cael ei losgi a bod wyneb y fawnog yn sych iawn ar hyn o bryd, mae darnau o lystyfiant da yma ac acw a dylai’r rheini ymledu dim ond iddyn nhw gael eu rheoli’n briodol. Ar hyn o bryd mae’r awdurdod yn gobeithio codi lefel y dwr drwy flocio’r brif ffos sy’n llifo allan o’r fawnog ac wedyn asesu a oes angen cronni mwy o ddwr. Hefyd, gobeithir trefnu rhaglen addas o bori’r fawnog dros yr haf.
Dim ond newydd ddechrau y mae’r prosiect ond byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y datblygiadau wrth iddyn nhw ddigwydd. |