















| Rhywogaethau/Cynefinoedd Rhif 6 y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol - Gwelyau Cyrs |
|
|
|
|
Mae gwelyau cyrs yn gynefin pwysig i adar, gan gynnwys nifer o rywogaethau sy’n genedlaethol brin. Ymhlith y rhywogaethau sy’n nythu yn Sir Gaerfyrddin mae telor y cyrs, telor yr hesg, bras y cyrs, rhegen y dwr a thelor Cetti. Mae’r gwelyau cyrs hefyd yn safleoedd nythu a bwydo pwysig i adar mudo ac adar y gaeaf fel aderyn y bwn prin sydd wedi’i gofnodi yng Nghanolfan Adar y Gwlyptir yn Llanelli. Gellir gweld hefyd amryw o greaduriaid di-asgwrn-cefn sydd wedi addasu i wlyptiroedd fel y gwahanol wyfynod wensgod neu’r teigr ôl-adain goch lliwgar. Dros y canrifoedd collwd llawer o welyau cyrs drwy ddraenio a dwysáu amaethyddol. Yn fwy diweddar collwyd neu niweidiwyd enghreifftiau eraill yn sgil datblygiadau a llygredd. Mae llawer o safleoedd hefyd wedi dioddef gan ddiffyg rheolaeth dda neu reolaeth amhriodol, sydd wedi golygu fod prysgwydd wedi ymledu a choed yn tyfu yno. Ym Mharc Arfordirol y Mileniwm Llanelli ac yng Nghanolfan Adar y Gwlyptir ym Mhenclacwydd mae gwelyau cyrs a chynefinoedd wedi’u creu a’u cyfoethogi. Maen nhw’n canolbwyntio ar bwysigrwydd gwelyau cyrs a chynefinoedd gwlyb eraill ac erbyn hyn caiff y safle ei ddefnyddio gan filoedd o adar y gwlyptir a rhydyddion i aeafu yno. Mae gwelyau cyrs pwysig o gwmpas Pwll Witchett yn Nhwyni Talacharn-Pentywyn, yn Ffen y Ffrwd ger Pinged ac yn Llangennech sy’n edrych dros aber Llwchwr. Mae nifer o enghreifftiau llai (ond yn bwysig gyda’i gilydd) ar gael hefyd o gwmpas arfordir Llanelli, o Gydweli i’r Bynie. Mae wyth Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Sir Gaerfyrddin sy’n cynnwys rhywfaint o welyau cyrs. Mae gwelyau cyrs yn dod yn fwyfwy pwysig i drin gwastraff diwydiannol a domestig gan eu bod nhw’n ddull syml ac economaidd o drin dwr gwastraff. Mae modd eu creu i weddu i’r dirwedd ac maen nhw hefyd yn gynefinoedd gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt. Drwy sugno a chasglu dwr maen nhw hefyd yn system effeithiol o amddiffyn rhag llifogydd. |