Loading translations… loading
Home Newsletters July 2010 Adroddiad diweddaraf Clwb Adar Sir Gaerfyrddin

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Adroddiad diweddaraf Clwb Adar Sir Gaerfyrddin PDF Print E-mail

Mae Clwb Adar Sir Gaerfyrddin wedi cyhoeddi'r adroddiad diweddaraf am 2008 a 2009.

Diben y clwb yw hyrwyddo gwylio a chofnodi adar yn Sir Gaerfyrddin ynghyd â threfnu cyfarfodydd, darlithiau a theithiau maes i'r aelodau. Ar hyn o bryd mae gan y clwb fwy na 100 o aelodau. Mae gan y clwb wefan ddiddorol dros ben (www.carmarthenshirebirds.co.uk) a gallwch drefnu eich bod yn cael negeseuon e-bost ynghylch cofnodion wrth iddynt gael eu cyflwyno – fel eich bod yn gwybod ble i fynd i gael golwg ar adar diddorol sydd newydd eu gweld.

Yn ystod 2008 cofnodwyd 205 o rywogaethau gan gynnwys un rhywogaeth newydd, sef Crëyr y Gwartheg, a welwyd yng Nghanolfan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir ym Mhenclacwydd ym mis Mai.

Cofnodwyd 197 o rywogaethau yn ystod 2009 – gan gynnwys cofnod newydd am Giconia Du dros Fachynys. Uchafbwynt arall oedd yr haid o Grymanbigau Du a gyrhaeddodd Ben-bre ar ddechrau mis Medi. Arhosodd rhyw 10 ohonynt yn y cyffiniau am dridiau. Hwn oedd y cofnod cyntaf ers 1910.

Fodd bynnag, nid dim ond adar prin ac ymwelwyr o bellter byd sy'n cael sylw yn yr adroddiad. Rhestrir yr holl adar a gofnodir yn Sir Gaerfyrddin – ond diddorol yw sylwi nad oedd rhai o'r adar mwyaf cyffredin fel y robin goch a llwyd y gwrych wedi eu cofnodi i gwbl! Mae'n bwysig cofnodi'r adar cyffredin yn ogystal â'r adar prin - gan fod cadw cofnodion dros gyfnod maith yn gallu bod o gymorth wrth olrhain tueddiadau o ran rhywogaethau ac wrth fonitro newidiadau a niferoedd rhywogaethau.