















| Grwp gwirfoddolwyr Llyn Llech Owain yn rhoi hwb i ieir bach yr haf |
|
|
|
|
Mae Gwarchod Gloÿnnod Byw Cymru a'r Parcmyn yn Llyn Llech Owain wedi bod yn cydweithio er mwyn gwella'r parc gwledig a'r cyffiniau ar gyfer bywyd gwyllt, yn enwedig ar gyfer Britheg y Gors, sef math prin o iâr fach yr haf sy'n dal i golli tir. Rydym yn ffodus gan fod un o'r poblogaethau cryfaf o Frithegion y Gors yng Nghymru yma yn ardal Cross Hands, er bod gwasgfeydd anferth ar y cynefin yn sgil rheolaeth amhriodol ac yn sgil cynlluniau gan ddatblygwyr. Mae ar Fritheg y Gors angen porfa sy'n cael ei phori'n ysgafn gan wartheg neu ferlod, a lle mae Tamaid y Cythraul yn tyfu gan taw dyma'r planhigyn sy'n fwyd i'r lindys. Roedd rheolwyr Parc Gwledig Llyn Llech Owain, Prosiect y Mynydd Mawr - Gwarchod Gloÿnnod Byw, a Choed Cymru wedi datblygu cynllun i gael gwared â chonwydd o ddarn o dir sy'n ymestyn dros 1.5 hectar ar hyd cyrion deheuol y parc, er mwyn i Frithegion y Gors allu symud rhwng cynefinoedd addas ar y naill ochr a'r llall i'r parc, a hefyd wedi creu llecyn bwydo gan hau yno lawer o flodau sy'n gyforiog o neithdar. Mae blodau gwyllt fel Carpiog y Gors a Bysedd y Cwn wedi ymddangos eisoes, ond penderfynwyd tyfu Tamaid y Cythraul hefyd er mwyn gwella'r dolydd ar gyfer Brithegion y Gors. Felly yn sgil hynny ffurfiwyd y Grwp Gwirfoddolwyr Blodau Gwyllt. Bu’r grwp yn casglu hadau Tamaid y Cythraul yn ystod hydref 2009 o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Rhyd-y-Gwiail sydd gerllaw. Mae'n bwysig defnyddio hadau lleol sydd wedi ymaddasu at yr amodau lleol. Aeth y gwirfoddolwyr ati i hau'r hadau gan dyfu planhigion bychain dros y gwanwyn a'r haf, a'r bwriad yw plannu'r rhain yn y dolydd newydd yn yr hydref.
Roedd dod o hyd i boblogaeth helaeth, ac annisgwyl, o Frithegion y Gors - y gwelwyd mwy na chant ar un ymweliad - yng nghwr de-ddwyreiniol Llyn Llech Owain yn y gwanwyn eleni yn hwb enfawr i'r gwaith. Os hoffech ymuno â'r Grwp Blodau Gwyllt, neu gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Parcmyn ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain drwy ffonio 01269 832229. |