Loading translations… loading
Home Newsletters July 2010 Gwiwerod Coch Sir Gaerfyrddin i'w gweld ar y teledu!

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Gwiwerod Coch Sir Gaerfyrddin i'w gweld ar y teledu! PDF Print E-mail

Red Squirrel © Damina WatersYn ddiweddar cafodd gwiwerod coch Sir Gaerfyrddin sylw ar raglen "Iolo's Wild Wales" gan y BBC. Ffilmiwyd y gwiwerod o guddfan mewn coedwig i'r gogledd o Bumsaint sy'n cael ei rheoli gan aelod o Brosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru.

Ers ei sefydlu mae Prosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru wedi llwyddo i roi amlygrwydd i'r ffaith fod y rhywogaeth hon yn dal i fyw yng nghoedwigoedd canolbarth Cymru. Ar y dechrau ysbeidiol oedd y cofnodion ond bellach cydnabyddir bod yr ardal hon yn un o'r tair prif ardal i'r rhywogaeth hon yng Nghymru. Mae gwaith y grwp wedi helpu i ddylanwadu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i lunio Cynllun Cadwraeth ar gyfer Gwiwerod Coch yng Nghymru. O ganlyniad i waith ymchwil gwelwyd bod y gwiwerod hyn yn unigryw yn enetig ac yn llinach gwiwerod Cymru. Yn sgil hynny mae gwiwerod coedwigoedd canolbarth Cymru wedi cael sylw nifer o weithiau ar raglenni natur.

Fodd bynnag, mae'n bosibl na fydd bod yn sêr y sgrîn yn ddigon i achub y gwiwerod hyn. Y nod yn y pendraw yw dylanwadu ar y modd y rheolir y coedwigoedd hyn er mwyn sicrhau bod y rhywogaeth frodorol hon, sy'n prysur golli tir, yn goroesi - mae'n rhaid sicrhau bod coed conwydd addas yn tyfu yn y coedwigoedd, bod y llwybrau cyswllt rhwng cynefinoedd yn cael eu cynnal, a bod rheolaeth ar wiwerod llwyd. Mae'r Prosiect wedi mapio ardal graidd ac ardal wahanu gysylltiedig (lle dylid hoelio sylw ar reoli gwiwerod llwyd). Hefyd mae'r Comisiwn Coedwigaeth wedi bod yn ymchwilio i'r llwybrau cyswllt rhwng cynefinoedd ac i'r modd y mae gwiwerod coch a llwyd yn gallu symud trwy'r goedwig, a dylai'r gwaith hwn fod o gymorth o ran cadarnhau'r ardaloedd craidd/gwahanu. Mae'n gyfnod cwbl allweddol o ran gwarchod gwiwerod coch yng nghanolbarth Cymru. Felly mae'n hollbwysig bod camau digonol yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau nad gwiwerod ar y teledu fydd yr unig wiwerod ymhen rhai blynyddoedd!