















| Ysgall prin yn blodeuo unwaith eto yn yr Ardd Fotaneg |
|
|
|
|
Roedd Ysgall y Ddôl ymhlith y 300m2 o borfa a symudwyd i Warchodfa Natur Waun Las yn yr Ardd cyn i faes chwarae’r ysgol gynradd gael ei golli yn sgil datblygu'r ysgol. Mae Ysgall y Ddôl (Cirsium dissectum) yn blanhigyn prin ac yn un o rywogaethau allweddol porfa rhos. Glaswelltir lled naturiol llaith, sydd i'w gael yn bennaf yng Nghymru a de Lloegr, yw porfa rhos. Yma yn Sir Gaerfyrddin y mae cyfran helaeth o'r hyn sy'n weddill o'r cynefin hwn. Collwyd llawer iawn o'r cynefin hwn yn sgil gwella tir amaethyddol, plannu coed, a rheolaeth amhriodol. Mae'r ardaloedd sy'n weddill o'r cynefin hwn yn tueddu i fod yn fychan ac yn wasgaredig, ac mae hyn yn gallu effeithio mewn modd negyddol ar y planhigion a'r anifeiliaid sy'n dibynnu ar y math hwn o gynefin, gan gynnwys ysgall y ddôl, brithegion y gors, a'r carwe troellog. Yn ôl pob golwg nid oedd yr ysgall wedi cael cyfle i flodeuo ers i'r ysgol gael ei chodi, ac mae'n rhyfeddol fod y rhywogaeth wedi goroesi yno o gwbl. Pan fo'r ysgall hyn yn tyfu ar borfa sy'n cael ei lladd yn rheolaidd, y gorau y gellid ei ddisgwyl yw bod y boblogaeth yn cael ei chadw mewn math o 'stasis', sef nid yw'r planhigion yn atgynhyrchu'n weithredol ac maent yn ymledu'n llystyfol (yn hytrach na thrwy gynhyrchu hadau). Yn fynych mewn amodau o’r fath mae'r boblogaeth yn gwanhau ac yn darfod yn y pendraw. Mae Ysgall y Ddôl yn tyfu mewn man arall ar ystad yr Ardd. Yn y man hwnnw mae'r blodau wedi bod yn hadu, ond nid oedd yr hadau wedi gallu egino am nad oedd y borfa’n cael ei phori'n ddigonol. Gan fod y cae a symudwyd yn eithaf agos i'r safle lle mae gweddill Ysgall y Ddôl, y gobaith yw y bydd y planhigion a symudwyd yn croesfridio â'r planhigion sydd ar y safle eisoes gan eu cryfhau yn enetig, ac yn rhoi bod i boblogaeth iach o'r planhigyn hwn. |