















| Bywyd Gwyllt ac Enwau Lleoedd |
|
|
|
|
Mae natur wyllt wedi dylanwadu arnom mewn sawl ffordd, ac mae hynny i'w weld yn amlwg yn niwylliant a hanes Sir Gaerfyrddin. Y bwriad yw rhoi sylw i enghreifftiau o enwau lleoedd sy'n cynnwys enwau anifeiliaid a phlanhigion. Mae rhai o'r rhywogaethau hyn yn gyffredin o hyd tra bo rhai eraill wedi prinhau, a rhai megis y blaidd a'r baedd gwyllt wedi hen ddarfod o'r tir. Yn wir mae llawer o'r rhywogaethau sydd wedi dylanwadu ar enwau ein tai a'n ffermydd ac a arferai fod yn gyffredin yn colli tir erbyn hyn - a beth fyddwn ni'n galw ein tai a'n strydoedd ymhen 100 mlynedd!? Bydd map o'r sir sy'n rhoi sylw i rai o'r enwau hyn yn cael ei arddangos o amgylch y sir, a'r gobaith yw y bydd pobl yn cael golwg ar y map ac yna'n ysgrifennu atom i roi gwybod inni am unrhyw enwau lleoedd eraill sy'n cynnwys enwau bywyd gwyllt! |