















| Cofnodi rhywogaeth newydd o gacwn bwm am y tro cyntaf yn y sir |
|
|
|
|
Yn ddiweddar cafwyd dau gofnod am rywogaeth newydd o gacwn bwm nad oedd wedi ei chofnodi o'r blaen yng ngorllewin Cymru. Yn 2001 yn y New Forest y gwelwyd gwenynen y coed (Bombus hypnorum) am y tro cyntaf ym Mhrydain; mae'n debyg ei bod wedi croesi o Ffrainc. Ymledodd y rhywogaeth yn gyflym tua'r gogledd ar draws Prydain ond tan yn ddiweddar yng Nghaerdydd yr oedd y cofnod mwyaf gorllewinol. Mae'n bosibl fod y rhywogaeth hon yn ymledu'n naturiol yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Mae'r gacynen bwm hon yn un hawdd ei hadnabod gan fod ganddi thoracs brown, bola du a chynffon wen - mae'n gwbl wahanol ei gwedd i bob cacynen bwm arall. Tyllau mewn coed yw nythleoedd naturiol y cacwn bwm hyn ond maent yn nythu hefyd mewn blychau adar, gan adeiladu nyth mewn nythod adar. Daeth y cofnod cyntaf yn ystod diwrnod hyfforddiant gan yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Cacwn Bwm yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol lle gwelwyd gwenynen y coed yn bwydo ar big y crëyr. Ymhen dim o dro gwelwyd y rhywogaeth newydd hon am yr eildro a hynny gan John Lloyd, sef cynrychiolydd Ymddiriedolaeth Adareg Prydain yn y sir. Yr oedd John yn archwilio blychau nythu yng Nghynghordy, a chan ei fod wedi darllen am y gacynen bwm hon yn nhrafodaethau cylch trafod cofnodwyr nythod yr ymddiriedolaeth, sylweddolodd fod y gacynen bwm oedd wedi meddiannu un o'r blychod nythu yn rhywogaeth arbennig. Mae dyfodiad gwenynen y coed yn newyddion da gan fod y rhan fwyaf o'r 24 rhywogaeth frodorol o gacwn bwm ym Mhrydain yn colli tir, a hynny'n bennaf oherwydd dulliau amaethu dwys. |