Loading translations… loading
Home Newsletters June 2010 Gweld rhywogaethau prin!

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Gweld rhywogaethau prin! PDF Print E-mail

Lesser Spotted Woodpecker © Mike ClarkLlwyddodd Mike Clark, sy'n ffotograffydd bywyd gwyllt, i dynnu llun o un o adar prin y goedwig ym Mharc  Dinefwr.

Y gnocell fraith leiaf (Dendrocopos minor) yw'r gnocell leiaf, a'r gnocell brinnaf, o blith y cnocellod sy'n byw ym Mhrydain. Mae gan y ceiliog gapan coch llachar. Mae'r rhywogaeth hon yn tueddu i nythu ac i fwydo'n uwch ym mrig y coed ac mae'n dawelach wrth ddyrnu - sy'n ffordd hwylus o'i hadnabod.

Cynefin y cnocellod hyn yw coedwigoedd agored, prysglwyni, parcdiroedd, gerddi a pherllannau lle maent yn chwilio am larfâu, corynnod a thrychfilod ar y canghennau. Aderyn y deheudir ydyw yn bennaf ym Mhrydain, ac yng Nghymru mae parau gwasgaredig hwnt ac yma ac eithrio yn y gorllewin pell.

Club-tailed Dragonfly © Mike ClarkRhywogaeth arall a ffilmiwyd ger Dinefwr oedd y gwesyn cnwpgwt (Gomphus vulgatissimus). Fel yr awgryma'r enw mae gan y gwesyn hwn fola neilltuol ar ffurf cnwp ynghyd â marciau du a melyn amlwg. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r gwesynod nid yw llygaid y gwesyn hwn yn cwrdd ar y corun. Rhywogaeth brin ac anodd ei gweld yw hon sydd i'w chael mewn rhai ardaloedd yn unig ym Mhrydain, ond nid i'r gogledd o ganolbarth Lloegr. Yng Nghymru maent yn byw ar hyd darnau o afonydd lle mae'r llif yn araf, gan gynnwys rhannau o afon Tywi ac afon Teifi. Mae eu cyfnod hedfan yn ymestyn o ddechrau Mai tan ddiwedd Mehefin/dechrau Gorffennaf.