















| Gwychder y gylchfan |
|
|
|
|
Bydd y borfa ar y gylchfan (sef y gylchfan lle gosodwyd y pyst rygbi o'r Strade) yn cael llonydd hyd nes y bydd y tegeirianau wedi blodeuo. Hefyd mae tegeirianau'n tyfu gryf ar ymylon ffyrdd mewn rhannau eraill o'r sir eleni. Yn sgil hynny mae'r Adain Gadwraeth wedi cysylltu â'r Gwasanaethau Stryd, a lle bo hynny'n bosibl mae'r ymylon ffyrdd wedi eu clustnodi er mwyn rhoi llonydd i'r tegeirianau flodeuo. Gwelwyd nifer o degeirianau yn eu gogoniant ar yr A4138 (Ffordd Gyswllt yr Hendy) ac ar y ffordd dosbarth B rhwng Saron a'r Blaenau. Mae tegeirianau yn blanhigion hynafol a rhyfeddol. Mae pob planhigyn yn cynhyrchu llawer iawn o hadau bychain - gall un goden gynnwys cynifer â 4 miliwn o hadau ond, am fod yr hedyn mor fach, mae'n wahanol i'r rhan fwyaf o hadau gan nad yw'n cynnwys dim bwyd naturiol wrth gefn i hybu twf yr eginblanhigyn. Felly mae perthynas symbiotig ryfeddol yn cael ei ffurfio rhwng yr eginblanhigyn a rhai ffyngau. Mae'n rhaid i'r hedyn gael ei heintio'n gynnar yn ei gylch bywyd os yw'n mynd i ymddatblygu'n blanhigyn, ac mae ffilamentau gwreiddflewog y ffwng yn darparu maetholion sy'n hybu twf y planhigyn. |