|
O'r Wasg - Brithegion y Gors ar gynnydd yng nghyffiniau Llyn Llech Owain… |
|
|
|
|
Syfrdanwyd y parcmon ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain pan ddaeth o hyd i fath prin o iâr fach yr haf ar laswelltir yn y parc gwledig - ond fe'i syfrdanwyd fwy byth wrth sylweddoli bod mwy na chant yno. Er bod un fritheg wedi ei chofnodi'n ddiweddar ar ddarn o dir lle'r oedd coetir conwydd wedi ei glirio - a hynny ar ôl bwlch o flynyddoedd lawer - prin fod neb yn disgwyl gweld cant a mwy ohonynt. Y gred yw bod clirio'r coetir hwn wedi darparu llwybr hedfan i frithegion y gors, sy'n byw mewn glaswelltiroedd llaith. Un o'r prif resymau dros ddirywiad y rhywogaeth hon yw bod cynefinoedd yn cael eu darnio a'u colli, felly mae'r darganfyddiad hwn yn bwysig dros ben.
|