















| Phytophthora ramorum ar led yng Nghymru |
|
|
|
|
Daethpwyd o hyd i Phytophthora ramorum am y tro cyntaf ym Mhrydain yn 2002. Yn gyffredinol fe arferid ei gysylltu'n bennaf â llwyni rhododendron sy'n gweithredu fel planhigyn cynhaliol lle mae sborau'n cael eu cynhyrchu. Pan fo digon o'r sborau hyn yn cael eu cynhyrchu, mae coed a phlanhigion eraill yn cael eu heintio yn y cyffiniau. Gwaredu llwyni rhododendron oedd y prif gam rheoli ar y cychwyn. Ym mis Awst 2009 cadarnhawyd bod Phytophthora ramorum ar rhododendron ponticum yn yr isdyfiant o dan larwydden Siapan oedd wedi cyrraedd ei llawn dwf, a hefyd ar ddail prysglwyni llarwydd Siapan, a hynny yng Nghernyw. Ers hynny cofnodwyd safleoedd heintiedig yn Nyfnaint ac yng Ngwlad yr Haf. Yn ogystal cadarnhawyd bod llarwydd Siapan heintiedig yn cynhyrchu pum gwaith yn fwy o sborau na rhododendron, a bod modd i'r rhain gael eu gwasgaru'n bell (degau o gilometrau yn ôl pob tebyg). Yr oedd arolygon o'r awyr o goetiroedd yn ne Cymru ym mis Mai 2010 wedi amlygu symptomau a oedd yn dangos y gallai Phytophthora ramorum fod yn bresennol. Mae archwiliadau a phrofion yn y cyfamser wedi cadarnhau bod yr afiechyd ar lawer o goed ym mhen isaf Cwm Afan, yng Nghwm Garw ac ym Mro Morgannwg, yn ne Cymru, a hynny ar larwydd o bob oedran. Mae'r sefyllfa'n newid yn gyflym wrth i ragor o arolygon gael eu cynnal, ac mae'n debygol bod yr afiechyd wedi mynd mwyfwy ar led. Yn achos llarwydd Siapan mae'r afiechyd yn effeithio ar y blagur a'r dail - mae'r blagur yn gwywo ac mae'r nodwyddau’n duo. Yna mae'r nodwyddau'n cael eu bwrw'n gynamserol. Mae'n bosibl y bydd sawl cancr ar y canghennau ac ar y rhannau uchaf o'r boncyff, ac mae resin yn gallu gwaedu o'r rhain. O ganlyniad mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi rhoi mesurau bioddiogelwch ar waith ar yr holl safleoedd heintiedig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth sef www.forestry.gov.uk/pramorum a chofiwch gadw golwg ar larwydd yn eich ardal chi. |