Loading translations… loading
Home Newsletters June 2010 Wythnos Bioamrywiaeth Cymru - gwyfynod gwych a mawredd y môr

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Wythnos Bioamrywiaeth Cymru - gwyfynod gwych a mawredd y môr PDF Print E-mail

Yn ystod Wythnos Bioamrywiaeth Cymru bu parcmyn a gwirfoddolwyr yn treulio eu bore dydd Sul yn chwilota trwy trapiau gwyfynod oedd wedi eu gosod y noson flaenorol ym  Mharciau  Gwledig Pen-bre, Gelli Aur a Llyn Llech Owain, gyda golwg ar weld y gwyfynod gwych oedd wedi eu dal. Mae'r amrywiaeth o wyfynod sy'n byw yn ein cynefinoedd yn ddigon o ryfeddod, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt i'w gweld yn ystod y nos yn unig - creaduriaid y nos yw'r rhain ac maent yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau cuddliw i gadw ynghudd yn ystod y dydd.

Trwy ddefnyddio trapiau gwyfynod mae modd cael cipolwg ar yr ystod ysblennydd o wyfynod sy'n byw yn ein gwahanol gynefinoedd  - a rhyfeddu at yr amrywiaeth o ran lliw, ffurf a maint gan gynnwys gwalchwyfyn yr helyglys, sy'n anferth ac yn lliwgar, a'r blaen brigyn sy'n gymwys fel blaen brigyn!

Cafwyd rhai rhywogaethau prin yn y trap ym Mharc Gwledig Gelli Aur – mae brychan Dyfnaint yn rhywogaeth brin yn genedlaethol ond yn gyffredin yn lleol yn Sir Gaerfyrddin, ac mae bidog y poplys yn brin yn y sir.  Cofnodwyd 26 o rywogaethau yno.

Ym Mharc  Gwledig  Pen-bre, yr oedd cofnodydd gwyfynod y sir wedi  adnabod mwy na 60 o rywogaethau - daethpwyd o hyd i 16 o wahanol rywogaethau yn y toiledau, gan fod y goleuadau yn eu denu yno!!

Ers y chwedegau bu gostyngiad yn niferoedd cannoedd o rywogaethau o wyfynod cyffredin - yn wir mae rhai rhywogaethau wedi prinhau'n syfrdanol. Mae gwyfynod yn elfen allweddol o'n bioamrywiaeth - mae ganddynt swyddogaethau pwysig o ran bod yn llysyddion ac o ran peillio planhigion, yn ogystal â bod yn ysglyfaeth i anifeiliaid eraill.

Pwy na fyddai'n cael ei swyno gan y creaduriaid cyfareddol hyn sydd ag enwau mor hudolus â chwimwyfyn rhithiol, peli pinc a chrwbach arian y bedw!

Cynhaliodd Clwb Hwylio Porth Tywyn Ddiwrnod Dysgu Rhagor am Fywyd Gwyllt y Môr ddydd Sadwrn 12 Mehefin. Yr oedd arbenigwyr morol wrth law o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, The Green Blue, a Safleoedd Morol Ewropeaidd Bae Caerfyrddin a’i Aberoedd; yr oedd ganddynt arddangosfa am gynefinoedd morol, gan gynnwys model maint llawn o fôr-grwban lledraidd, tanc oedd yn cynnwys creaduriaid pyllau'r glan môr, ac atgynhyrchiad o lawr y môr!

Wythnos ynghynt yr oedd Cadwch Gymru'n Daclus wedi cynnal sesiwn codi sbwriel ar y traeth, ac felly dangoswyd rhai o'r pethau plastig a metel a'r tameidiau o rwydi a gasglwyd ac sy'n gallu bod mor andwyol i fywyd gwyllt y môr.

Hefyd bu arbenigwyr morol Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn arwain taith dywys ar hyd y traeth gan hoelio sylw ar fywyd gwyllt y glannau, a bu Valerie Bartlett - sy'n artist amgylcheddol - yn creu traeth crwbanod oedd yn cael ei ddynodi gan y baneri yr oedd disgyblion Ysgol Iau Porth Tywyn wedi eu llunio yng nghwmni'r artist yr wythnos flaenorol.  Neges bendant arddangosfa'r ysgol o faneri a rhwydi, ynghyd â sbwriel y traeth, a hynny ar hyd rheiliau'r harbwr, oedd bod yn rhaid Gwarchod Ein Glannau!!