Loading translations… loading
Home Local Groups Carmarthenshire Bird Club

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Cadwch olwg am ddraenogod? PDF Print E-mail

Hedgehog ©
Richard BurkmarA oes gennych chi ddraenogod yn eich gardd? Neu a ydych yn eu gweld ar y ffyrdd wrth ichi deithio o amgylch Sir Gaerfyrddin? Mae draenogod i'w cael mewn parciau a gerddi ac ar ffermydd ledled Prydain, ac mae eu cyrff dreiniog yn golygu eu bod yn hawdd eu hadnabod. Ond yn ôl pob golwg mae draenogod yn colli tir, ac nid ydynt mor gyffredin ag yr oeddynt yn arfer bod.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Ymddiriedolaeth Natur (gyda chymorth grant gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru) yn lansio arolwg newydd o ddraenogod yn Sir Gaerfyrddin, a hynny er mwyn cymell pobl i roi gwybod am unrhyw ddraenogod a welant - boed yn fyw neu'n farw.

Yn ddiweddar ychwanegwyd y draenog at y rhestr o rywogaethau sy'n destun blaenoriaeth ym Mhrydain, a lluniwyd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth ar gyfer Draenogod yn y fersiwn diwygiedig o Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin. Yr argraff wrth siarad â phobl yw bod y niferoedd wedi lleihau yn Sir Gaerfyrddin, ond prin yw'n cofnodion am ddosbarthiad draenogod.

Y gobaith yw y bydd pobl yn cyflwyno gwybodaeth drwy'r arolwg ynghylch pryd ac ymhle y maent wedi gweld draenogod. Bydd dysgu rhagor am eu dosbarthiad yn ein helpu i benderfynu ar gamau i'w gwarchod.

Gallwch gyflwyno gwybodaeth ar-lein: www.carmarthenshirebiodiversity.co.uk neu gallwch ofyn am ffurflen drwy ysgrifennu at Lizzie Wilberforce, Arolwg Draenogod Sir Gaerfyrddin, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru, Cilgerran, Aberteifi SA43 2TB.