Loading translations… loading
Home Newsletters May 2010 Cofnodi Gwyfynod - Parciau Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Cofnodi Gwyfynod - Parciau Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin PDF Print E-mail

Dydd Sul 6 Mehefin 2010, 10–12:00

Scarlet
Tiger Moth © Jon BakerBydd digwyddiad arall i ddathlu Wythnos Bioamrywiaeth Cymru yn cael ei gynnal ddydd Sul 6ed Mehefin ym Mharciau Gwledig y Sir. Pam na ddewch draw rhwng 10:00 a 12:00 fore Sul i helpu'r parcmyn a gwirfoddolwyr Gwarchod Gloynnod Byw i adnabod y gwyfynod yr oeddynt wedi eu dal yn y trapiau dros nos. Byddwch yn rhyfeddu at yr amrywiaeth o ran maint, lliw, a ffurf y gwyfynod fydd wedi eu dal. Mae gan bob parc gwledig ei gynefin unigryw ei hun a'r gobaith yw dal amrywiaeth o wyfynod o'r cynefinoedd hynny. Mae rhai rhywogaethau o wyfynod yn dibynnu ar fath penodol o gynefin, a heb amrywiaeth o gynefinoedd byddai ein gwyfynod yn darfod o'r tir.

Bydd yr arolwg ‘cipolwg' hwn o wyfynod yn cael ei gynnal ar un noson yn y sir a hynny mewn amrywiaeth o gynefinoedd gan roi inni gofnod diddorol o boblogaeth gwyfynod y sir, a'r gobaith yw y bydd yn rhoi cyfle i bobl gael golwg ar rai gwyfynod prydferth y mae'n bosibl nad ydynt wedi eu gweld o'r blaen.

Mae Parc Natur Ynys Dawela, Parc Gwledig Gelli Aur, Parc Gwledig Llyn Llech Owain a Pharc Gwledig Pen-bre i gyd yn cymryd rhan - i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Isabel Macho, Swyddog Bioamrywiaeth – This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it