Loading translations… loading
Home Newsletters May 2010 Digwyddiad Morol yn Harbwr Porth Tywyn

eNewsletter

Monthly eNewsletter



Digwyddiad Morol yn Harbwr Porth Tywyn PDF Print E-mail

Dydd Sadwrn 12 Mehefin 2010, 13:00–16:30

Pembrey Burrows and Saltings

Yn ystod Wythnos Bioamrywiaeth Cymru (6-13 Mehefin) cynhelir Diwrnod Bioamrywiaeth Morol yn y clwb hwylio ym Mhorth Tywyn.

Nod y diwrnod yw dathlu ein cynefinoedd a'n rhywogaethau arfordirol / morol, cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr amgylchedd morol ac o'i statws warchodedig, esbonio sut y gall pobl leol / defnyddwyr badau / pysgotwyr helpu i'w gwarchod, a chymell pobl i roi gwybod am unrhyw fywyd gwyllt morol a welant.  

Cynhelir taith dywysedig ar hyd y traeth a'r twyni, bydd arddangosfa a gweithgareddau yn y Clwb Hwylio, a bydd gweithgareddau i'r plant ar y traeth.

Yn ystod yr wythnos flaenorol bydd gweithdy morol yn cael ei gynnal mewn ysgol leol, a bydd sesiwn clirio annibendod yn cael ei gynnal ar y traeth er mwyn hoelio sylw ar fater sbwriel ar ein traethau gan bwysleisio pa mor beryglus ydyw i fywyd gwyllt.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Isabel Macho, Swyddog Bioamrywiaeth – This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it